Diflaniad Nantgaredig: Heddlu'n cyhuddo dyn o lofruddio

  • Cyhoeddwyd
Michael O'LearyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael O'Leary o Nantgaredig wedi bod ar goll ers 27 Ionawr

Mae ditectifs sy'n ymchwilio i ddiflaniad dyn yn Sir Gâr wedi cyhuddo dyn 52 oed o lofruddiaeth.

Does neb wedi gweld Michael O'Leary, 55 oed o Nantgaredig, ers dydd Llun 27 Ionawr.

Bydd Andrew Jones, o Fronwydd ger Caerfyrddin, yn mynd o flaen Llys Ynadon Llanelli ddydd Mawrth.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod Mr O'Leary yn dal ar goll ac mae nifer o leoliadau'n cael eu harchwilio yn ardal Caerfyrddin.

Mae teulu Mr O'Leary wedi cael gwybod ac yn parhau i gael cefnogaeth gan swyddogion heddlu arbenigol.

Dywed y llu bod "arbenigwyr cenedlaethol" yn cefnogi tîm yr ymholiad.

"Mae'r ymchwiliad a'r chwilio am Mr O'Leary yn parhau wrth i ni geisio cael atebion i'r teulu," meddai'r Ditectif Prif Arolygydd Paul Jones.

Mae'r llu eisiau clywed gan unrhyw un:

  • a welodd Mr O'Leary nos Lun, 27 Ionawr,

  • a welodd ei gar Nissan Navara arian rhwng Cwmffrwd a Chapel Dewi rhwng 20:00 a 22:00 yr un noson, neu

  • oedd yn yr ardal honno yn y cyfnod dan sylw sydd â gwybodaeth all helpu'r ymchwiliad.

Mae modd cysylltu â'r heddlu trwy ffonio 101.