'Roedd fy nghorff i'n sgrechian fod rhywbeth ddim yn iawn...'
- Cyhoeddwyd
"Dwi wedi ffeindio fo'n anodd i ddweud wrth bobl fy stori i..."
Sgwrs gyda'r bardd Rufus Mufasa wnaeth ysgogi'r gomedïwraig Beth Jones i rannu'n gyhoeddus am y tro cyntaf ei stori am enedigaeth trawmatig ei mab.
Rufus yw gwestai diweddaraf Beth a'i chyd-gyflwynydd Siôn Tomos Owen ar y podlediad Bwyta Cysgu Crio sy'n trafod pob math o bynciau am fod yn rhieni. Ac ar ôl profi dwy enedigaeth anodd ei hun, roedd Rufus yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o PTSD (post-traumatic stress disorder) ymysg mamau newydd.
"Tra'n recordio'r pod gyda Rufus a chlywed am ei phrofiadau hi, ges i bach o lightbulb moment o sylweddoli ahhh PTSD, wrth gwrs," meddai Beth. "Roedd yn brofiad emosiynol sylweddoli cymaint o'n i wedi bod trwyddo."
Yma, mae Beth yn datgelu gwir faint effaith genedigaeth ei mab arni hi a'i theulu.
Damwain ar bwrpas
Pan ar siwrne i'r gwaith un bore, ychydig fisoedd ar ôl dychwelyd wedi cyfnod mamolaeth, wnes i ddal fy hun yn ystyried o ddifrif ceisio crashio'r car. A hynny yn y gobaith bydden i'n cael fy nghludo i'r ysbyty... o leia' baswn i'n cael ychydig o seibiant wedyn.
Oeddwn i wrthi'n ystyried sut fyddai'n bosib smalio mai damwain oedd o - ond yna meddwl, na, gwell peidio. Newydd brynu'r car oedden ni, bydde'n wastraff arian a bydde'r gŵr yn livid. Oeddwn i jest angen time out - yn gorfforol ac yn feddyliol.
Ar y pryd, wnes i roi'r meddyliau lawr i gorbryder.
Nid tan i ni drafod hefo Rufus Mufasa am ei PTSD ar y podlediad wnes i sylweddoli efallai bod yr un peth wedi digwydd i fi hefyd.
Cefais brofiad gwael iawn yn rhoi genedigaeth ond tan hynny 'doeddwn i byth wir wedi trafod y peth na phrosesu beth ddigwyddodd. Dyma fi'n sylweddoli ei fod yn dal i effeithio arna i ddwy flynedd wedyn.
Preeclampsia, Caesarean a Sepsis
Pum diwrnod dros y due date tra'n cerdded ar hyd pier Penarth cefais i fy contraction mawr cyntaf. Roeddwn i'n dal fy hun ar y rheiliau yn edrych lawr at y dŵr, hefo dynion yn pysgota bob ochr.
Dwi'n credu wnaeth fy nŵr dorri y bore wedyn, ond oeddwn i'n gwisgo adult diaper fel mod i ddim yn baeddu'r gwely. Ac mae'r bloomin' pethe yn dal dŵr yn rhy dda, felly doeddwn i methu bod yn bendant. A ta beth, wnaeth y nyrsys checio a dweud bod o heb dorri.
Es i mewn i'r ysbyty y noson hynny. Yno oeddwn i am yr wyth diwrnod nesa'.
Daeth y babi ar y bore dydd Sul. Ges i Caesarean brys yn y diwedd ar ôl deuddydd uffernol o aros. Wedi iddyn nhw fy agor, wnaethon nhw ddarganfod fod y babi'n styc yn fy mhelfis, a doedd o byth am ddod yn naturiol.
Oedd fy nŵr wedi hen dorri ac ogla' drwg yn dod o'r groth. Dyma pryd wnaethon nhw gadarnhau bod gen i Sepsis - a bod gan fy mabi Sepsis hefyd. Roedd hefyd gen i Preeclampsia ac roedd fy iau wedi stopio gweithio.
Oeddwn i wedi chwyddo bron dwy maint dillad erbyn hyn, a fy nghoesau i hefo cymaint o ddŵr ynddyn nhw roedd hylif yn llifo allan o'r pores.
Bylchau mawr
Tan y bythefnos olaf, ces i feichiogrwydd digon di-ffwdan.
Wedi hynny dechreuodd popeth fynd go-chwith. O'n i'n mynd drwy rhywbeth am y tro cyntaf - yn fam newydd - ac roedd fy nghorff i'n sgrechian fod rhywbeth ddim yn iawn.
Chwyddodd fy nwylo, fy wyneb a'm traed sef red flag am Preeclampsia - ond daeth pob prawf yn ôl yn glir.
Roedd fy nwylo a traed yn cosi, sy'n symptomau o broblem hefo'r iau, ond daeth y profion hynny nôl yn iawn hefyd. Roedd protein yn fy nŵr, ond er i'r profion ddod nôl yn iawn, diolch byth ges i fy rhoi ar antibiotics. Hynny dwi'n meddwl wnaeth helpu stopio'r Sepsis rhag fy lladd i.
Mae bylchau mawr yn y dyddiau yn yr ysbyty ble'r oeddwn i ar gyffuriau cryf i leddfu'r poen. Dwi'n cofio lot o gyffuriau, nodwyddau, bwydo, newid dillad droeon, gwaed, pŵ afiach - fi a'r babi, lot fawr o grio - fi a'r babi.
Nid fi yn unig wnaeth ddioddef. Roedd yr holl brofiad yn uffern i fy ngŵr a fy rhieni hefyd. Dwi'n sicr ein bod ni'n pedwar wedi dioddef rhyw elfen o PTSD, i fod yn onest.
'Doedd Mam na Dad ddim yn gallu trafod y peth heb fynd yn emosiynol. Roedd y ddau yn ddig iawn ac yn flin nad oedd unrhyw un wedi cymryd sylw o'u pryderon nhw amdana i ynghynt.
Ac er mod i a'r gŵr wedi trafod cyn y geni beth i wneud petawn i'n marw wrth roi genedigaeth, doeddwn ni heb wir feddwl bydde hynny'n bosibiliad. I fy ngŵr, mae'r teimlad o fod yn hollol ddiymadferth wedi gadael ei ôl arno. Er ei fod yn dweud cymaint mae Harri wedi dod â hapusrwydd i'w fyd, fel "trauma" mae'n cyfeirio at yr enedigaeth.
Ar hyn o bryd dydy o ddim eisiau plentyn arall... dwi'n meddwl oherwydd 'dyw e ddim eisiau i fi fynd drwy hwnna eto.
Anodd sgwrsio
O'n i'n lanast llwyr o emosiwn a diffyg cwsg yn ystod y flwyddyn cyntaf o fywyd Harri. 'Doeddwn i methu mynd heibio i'r ysbyty heb cael flashback.
Roedd fy ngorbryder yn ei gwneud hi'n anodd sgwrsio â rhieni eraill ar y dechrau. Ond dwi mor lwcus fy mod wedi creu criw o ffrindiau anhygoel. Maen nhw wedi fy ngweld i ar fy mwyaf bregus ac wedi fy ngwarchod i, fy nghefnogi a fy helpu i wella.
I fi, roedd dathlu penblwydd cyntaf Harri yn ffordd o nodi diwedd ar un bennod o fy mywyd a dechrau un newydd. Parti nid i'r babi yn unig, ond i fi, fy ngŵr a fy rhieni i ddweud: "Dwi yma, mae Harri yma. Dyna ni rwan. 'Da ni ddim am feddwl am yr enedigaeth dim mwy."
Yr hyn sydd wedi helpu yw sylweddoli fy mod wedi profi trawma a phrosesu'r emosiynau yna. Yn y diwedd wnes i siarad am y peth. Siarad sydd wedi bod yn hollbwysig - nid i ofyn am help, dim ond i ddweud wrth bobl 'dyma beth sy'n bod, dwi'n ok, dwi angen i chi wybod, a pheidiwch â phoeni'.
A'r peth mwyaf pwysig i gyd, wrth gwrs, yw Harri. Dwi'n teimlo'n freintiedig iawn i fod yn fam iddo - mae o'n fachgen bach arbennig.
Gallwch wrando ar straeon Rufus a Beth yn llawn ar bodlediad Bwyta Cysgu Crio.