Yr artist rhyngwladol ddisgynodd mewn cariad gyda llên Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae delweddau trawiadol o lenorion Cymraeg yn cael eu harddangos i nodi canmlwyddiant artist o Efrog Newydd wnaeth ddisgyn mewn cariad â Chymru.
Fe gafodd Paul Peter Piech ei eni yn yr Unol Daleithiau yn 1920 i rieni Wcrainaidd. Daeth yn enwog am ei bosteri a phrintiadau leino a phren oedd yn protestio yn erbyn anghyfiawnderau cymdeithasol.
Ynghyd â'r gwaith gwleidyddol fe gynhyrchodd gyfres am lenorion enwog hefyd, gan gynnwys rhai o Gymru tra roedd yn byw ym Mhorthcawl am ddegawd olaf ei fywyd.
Mae'r gwaith celf - o awduron fel Saunders Lewis, DJ Williams, Harry Webb a Waldo Williams - nawr i'w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, i nodi canmlwyddiant geni'r artist.
"Maen nhw'n drawiadol," meddai Mari Elin Jones, curadur yr arddangosfa.
"Roedd rhieni Piech wedi magu fe i siarad Ukrainian ac yn darllen lot o farddoniaeth a straeon o'r Wcráin iddo fo. Fe wnaeth hwnnw roi cariad ynddo fo at ddiwylliannau ac ieithoedd gwahanol ac felly pan ddaeth i Gymru wnaeth o gwympo mewn cariad efo'n llenyddiaeth ni mewn gwirionedd.
"Roedd o ond yn creu gwaith yn seiliedig ar eiriau llenorion roedd e'n credu ynddyn nhw. Roedd rhaid bod y beirdd a cherddorion efo rhywbeth i'w ddweud cyn bydde fe'n cymryd eu geiriau nhw a'u troi nhw i mewn i graffeg felly mae'n eitha' difyr y math o bobl mae o'n ddewis.
"Yn yr arddangosfa yma mae ganddon ni Saunders Lewis, DJ a Waldo - cymeriadau roedd rhywbeth i'w ddweud ganddyn nhw.
"Mae o wedi sgwennu am Saunders, a beth ddywedodd e oedd 'dwi'n cael fy nhynnu at Saunders oherwydd iddo sefyll fyny dros Gymru - pan losgodd yr Ysgol Fomio gyda DJ a Valentine roedd yn gwneud hynny i godi ymwybyddiaeth o beth oedd yn digwydd i Gymru o dan sawdl cenedl arall.'
"Jest yn y darnau bach fi wedi dod ar draws chi'n cael y syniad ei fod e'n angerddol am bethau."
Fe ddaeth Paul Peter Piech i Brydain am y tro cyntaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan ddisgyn mewn cariad gyda nyrs o Gymru o'r enw Irene Tomkins. Pan ddaeth heddwch, fe wrthododd hi fynd yn ôl gydag o i'r Unol Daleithiau ac felly fe arhosodd o, ei phriodi a byw yn Lloegr.
Fe gafodd yr Americanwr yrfa lwyddiannus yn y byd hysbysebu am 15 mlynedd cyn canolbwyntio ar ddatblygu ei wasg ei hun a'i waith celf.
Symudodd i Gymru yn yr 1980au gan dreulio degawd olaf ei fywyd ym Mhorthcawl.
Mae'r arddangosfa yn Aberystwyth yn rhan o'r 200 o brintiadau a phosteri sydd gan y Llyfrgell. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys tua 3000 o'r blociau leino roedd yn eu defnyddio, o brintiau cyfan i lythrennau unigol.
Mae'r posteri o lenorion Cymreig - fydd yn cael eu gweld ymysg delweddau o awduron eraill tu hwnt i Gymru fel Stevie Smith ac Ezra Pound - yn cael eu gosod ochr yn ochr â'u blociau print leino gwreiddiol, ac eitemau perthnasol o gasgliad y Llyfrgell, er enghraifft llawysgrifau Dylan Thomas a Waldo Williams.
Dywedodd Mari Elin Jones: "Yn un o'i lythyrau mae'n sôn ambyti dod ar draws gweithiau a geiriau roedd e'n licio ac roedd e jest yn teimlo bod o angen creu rhywbeth ac angen defnyddio'r geiriau yma.
"Roedd e'n teimlo angen iddo wneud y stwff gwleidyddol, mae sawl dyfyniad diddorol gyda fe lle mae'n sôn bod e'n teimlo bod poster yn ffordd o ddweud rhywbeth a bod o'n dueddol o gael ei symud gan wahanol achosion a jest teimlo bod y poster yn ffordd berffaith i allu dweud pethau.
"Dwi'n credu roedd e ishe helpu neu ddweud rhywbeth a chodi proffil achosion oedd o'n credu ynddyn nhw."
Yn ogystal â gwaith gwleidyddol, roedd Piech wedi gwneud cyfres am streic y glowyr a nifer o ddarluniau yn clodfori jazz. Ond mae'n ddigon posib mai gweithiau eraill fyddai'n adnabyddus mewn ambell i gartrefi yng Nghymru.
Ychwanegodd Mari Elin Jones: "Fi wedi bod yn siarad efo cwpwl o bobl yn digwydd bod, a fi wedi synnu faint o bobl sydd wedi dweud 'o mae un o rheiny gan i yn y tŷ, brynais o am gwpwl o bunnoedd yn yr Eisteddfod yn nawdeg rhywbeth. Fi wedi synnu yw faint o'r gwaith yma sydd o gwmpas.
"Beth fi'n meddwl oedd yn dueddol o ddigwydd oedd bod e'n gwneud tipyn bach ac yn gwerthu nhw am bris rhad iawn achos roedd o jest moyn i bobl enjoio celf yn hytrach na gwario lot fawr, fawr i gael darnau gwreiddiol."
Mae rhai o gasgliadau Piech, fu farw ym Mhorthcawl yn 1996, yn cael eu cadw yng Nghanolfan Argraffu Rhanbarthol Wrecsam ac yn amgueddfa'r V&A yn Llundain.
Bydd yr arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol ar agor drwy'r flwyddyn.