Dyn o Landudno wedi dal coronafeirws yn China

  • Cyhoeddwyd
Connor Reed
Disgrifiad o’r llun,

Mae Connor Reed, sy'n wreiddiol o Landudno, yn dysgu Saesneg yn Wuhan

Mae Cymro wedi bod yn siarad am ei brofiad o ddal coronafeirws tra'n byw yn Wuhan yn China.

Dywedodd Connor Reed, sy'n wreiddiol o Landudno, ei fod wedi dal y firws ym mis Rhagfyr a bod meddygon wedi cadarnhau hynny dair wythnos yn ôl.

Daw wrth i'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething gynghori pobl ddydd Mawrth rhag teithio i China oni bai fod hynny'n angenrheidiol, ac na ddylid teithio i ardal Hubei, sy'n cynnwys dinas Wuhan, ar unrhyw amod.

"Roedd gen i'r firws nôl ym mis Rhagfyr, ond ar y pryd roedd cyn lleied o adroddiadau amdano, a chyn lleied o achosion hefyd, roedden nhw'n dweud wrtha i mai rhyw fath newydd o firws oedd o, a'u bod nhw am edrych arno fo," meddai Mr Reed.

Ychwanegodd ei fod yn wreiddiol wedi cadw ei hun i ffwrdd oddi wrth bawb arall, ond ei fod wedi mynd i'r ysbyty ar ôl iddo ddatblygu niwmonia.

"Dyw gwrthfiotig yn werth dim byd os oes gennych chi'r firws, felly does dim moddion i'ch gwella chi, ond fe wnaethon nhw roi pwmp i fy helpu gyda'r anadlu pan gefais i'r niwmonia, ac mi helpodd hynny'n fawr iawn," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddogion yn China wedi cael eu cyhuddo o gelu gwir sefyllfa'r firws yn y wlad

Mae Mr Reed wedi byw a gweithio yn Wuhan, sy'n ganolbwynt i'r haint, fel athro Saesneg ers tair blynedd.

Yn ôl ffigyrau swyddogol China mae dros 425 o bobl wedi marw a dros 20,000 o achosion wedi cael eu cadarnhau.

Erbyn hyn mae swyddogion yn gofyn i bobl gadw draw o farchnadoedd anifeiliaid anghyfreithlon, sef tarddiad mwyaf tebygol yr haint, wrth iddyn nhw geisio dod â'r sefyllfa dan reolaeth.

"Roeddwn i'n gwybod fod gen i'r firws yma, doedd dim modd dianc o hynny, ond doeddwn i erioed yn teimlo fel 'mod i ar fin marw - achos cas iawn o ffliw oedd e wnaeth yn y pen draw droi'n rhywbeth ychydig bach yn fwy difrifol," meddai Mr Reed.

"Dwi'n byw 20 munud i ffwrdd o farchnad bysgod, ond a bod yn onest fe allwn i fod wedi ei ddal yn unrhyw le.

"Dwi'n mynd a dod ar hyd y strydoedd yn aml. Alla i ddim meddwl am unman penodol y gallwn i fod wedi dal yr haint."

Ar un adeg fe gynigiodd ei deulu ei hedfan adref, ond dywedodd Mr Reed nad yw am adael.

"Mae'r holl ddinas dan warchae," meddai.

"Tua phythefnos yn ôl roedd hi'n gyfnod eithaf pryderus, ac roedd yna banig. Erbyn hyn mae yna lawer mwy o obaith."