Cynllun strategol dros bum mlynedd i'r Coleg Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
ColegFfynhonnell y llun, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Fe fydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn lansio cynllun strategol newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf ddydd Mercher.

Gobaith y Coleg yw y bydd y cynllun yn gosod gweledigaeth y sefydliad rhwng 2020-2005, gyda'r Gymraeg yn "rhan o batrwm dysgu gydol oes pobl Cymru".

Fe fydd y cynllun hefyd yn "amlinellu blaenoriaethau'r sefydliad wrth iddo arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru".

Yn y cyfamser, mae cyfrifon diweddaraf y Coleg yn dangos fod y corff wedi gwneud colled o £285,000 y llynedd.

Cynnydd mewn taliadau pensiwn sydd yn gyfrifol am y diffyg ariannol medd y coleg, ac mae eu cyfrifon "yn gadarn" yn ôl llefarydd.

'Gweledigaeth'

Wrth siarad cyn lansio'r cynllun, dywedodd Prif Weithredwr y Coleg, Dr Ioan Matthews: "Mae'r Cynllun Strategol hwn, ar gyfer y cyfnod hyd at 2025, yn mynegi ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y Coleg fel corff arweiniol sy'n gwreiddio'r Gymraeg fel rhan hanfodol o batrwm dysgu gydol oes pobl Cymru, ac yn benodol yng nghyd-destun addysg ôl-16 ac addysg uwch.

"Mae cynnydd sylweddol wedi'i weld yn y prifysgolion ar draws y degawd diwethaf o ran y ddarpariaeth Gymraeg a'r dewis a gynigir i fyfyrwyr.

"Byddwn yn adeiladu ar y cynnydd a welwyd a hyderwn, gyda chefnogaeth ac adnoddau priodol, y byddwn yn gallu arwain ar greu cynnydd tebyg yn y sectorau ôl-16."

Dywedodd wedyn wrth raglen Post Cyntaf bod y Coleg a phartneriaid eraill eisoes wedi cymryd sawl cam i gryfhau'r cyfleoedd ar gyfer dysgwyr dros 16 oed.

"Ymhob coleg addysg bellach nawr ry'n ni'n darparu grant hybu a hyrwyddo, mae 'na gynllun llysgenhadon addysg wedi'i lansio gan y Gweinidog y llynedd," meddai.

"A 'dyn ni wedi adnabod hefyd nifer o gamau sydd angen eu cymryd yn benodol i gryfhau'r strwythr staffio a hyfforddwyr i weithio gyda dysgwyr i ddatblygu sgiliau Cymraeg, ac i'w defnyddio nhw wedyn mewn cyd-destynau gweithle ac yn wir yn gymdeithasol hefyd."

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Mae'n bleser gen i lansio Cynllun Strategol pum mlynedd y Coleg heddiw, sy'n gynllun uchelgeisiol ac yn adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf.

"Rwy'n falch o'r cynnydd sydd wedi ei weld yn nifer y bobl sy'n dewis astudio rhagor o'u cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn edrych ymlaen at weld cynnydd pellach mewn addysg uwch ac ôl-16 i'r dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Diffyg ariannol

Cafodd cyfrifon diweddaraf y Coleg am y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2019 eu cyhoeddi ychydig cyn y Nadolig. Mae'r cyfrifon yn dangos fod y sefydliad mewn diffyg ariannol o £285,000 y llynedd - sydd yn gynnydd ar y golled o £29,000 am y flwyddyn 2017-18.

Roedd cronfeydd yr elusen am 2019 yn £2.58m - sydd yn ostyngiad ar y £2.87m oedd yn eu cronfeydd yn 2018.

Yn ôl y cyfrifon diweddaraf, cynnydd mewn taliadau pensiwn oedd yn gyfrifol am y diffyg yn 2019: "Mae'r refeniw yn deillio'n bennaf o arian a gafwyd gan Llywodraeth Cymru. Mae'r rhan fwyaf o'r costau yn ystod y flwyddyn yn gostau sy'n ymwneud ag ariannu rhaglen weithgareddau'r Coleg, ar ffurf arian grant i brifysgolion a chostau canolog sy'n ymwneud a rhedeg y Coleg.

"Effeithiwyd yn arbennig ar y diffyg at gyfer y flwyddyn o £285,000 (2018: £29,000) gan y cynnydd yn y ddarpariaeth pensiwn USS, o ran y diffyg gwasanaeth yn y gorffennol."

Cronfa bensiwn

Fel colegau a phrifysgolion eraill ar hyd a lled Prydain, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn wynebu cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn, er mwyn ceisio lleihau'r diffyg blaenorol o £6.1bn yng nghynllun pensiwn USS - yr Universities Superannuation Scheme.

Dyma'r prif gynllun pensiwn i ddarlithwyr ac academyddion yn y DU, ac mae wedi bod yn achos gweithredu diwydiannol mewn degau o brifysgolion a cholegau yn ddiweddar - gyda rhagor o weithredu ar y gweill.

Disgrifiad o’r llun,

Staff yn streicio ym Mhrifysgol Caerdydd y llynedd dros newidiadau i'w pensiynau

Mae union faint y diffyg yn y cynllun pensiwn USS yn destun cryn ddadlau rhwng y rhai sy'n ei weithredu ar un llaw, a'r undebau sydd yn cynrychioli'r darlithwyr ar y llaw arall.

Yn ôl cyfrifon diweddaraf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Cafodd y newid yn y ddarpariaeth pensiwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019 ei effeithio'n arbennig gan gynnydd yn y cyfraddau cyfrannu i 5% fel rhan o'r cynllun ariannu diffygion pensiwn USS i 2034 y cytunwyd arno ym mis Ionawr 2019.

"Nodwn fod y cyfraddau cyfrannu wedi cael eu diwygio ymhellach ym mis Medi 2019 i 6% o gyflog am ddwy flynedd hyd at 30 Medi 2021 a 6% y flwyddyn wedi hynny i 31 Mawrth 2028.

'Cyfrifon cadarn'

Mewn ymateb i'r cyfrifon diweddaraf, dywedodd llefarydd ar ran y Coleg: "Mae'r Coleg yn falch fod ein cyfrifon yn gadarn ar gyfer y flwyddyn 2018-19. Derbyniwyd ychydig dros £6 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru ac fe wariwyd swm tebyg.

"Mae'r cyfrifon yn dangos diffyg ar bapur yn dilyn ail-brisio Cynllun Pensiwn USS - oedd wedi tynnu dros £400,000 o'r cyfrifon eleni fel newid cyfrifo i adlewyrchu taliadau y disgwylir y bydd angen i'r Coleg eu gwneud yn ystod y degawd nesaf. Dyma'r sefyllfa sy'n wynebu pob prifysgol sy'n rhan o gynllun USS.

"Erbyn hyn mae'r disgwyliadau wedi newid a bydd y cyfrifon ar gyfer y flwyddyn bresennol yn dangos ail-brisio arall - fydd yn arwain at ddangos swm fydd yn cael ei hychwanegu i'r cyfrifon ar bapur."