Pennaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gadael

  • Cyhoeddwyd
Gary Doherty

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau fod prif weithredwr y bwrdd yn bwriadu gadael ei swydd y mis hwn i ymgymryd â swydd Cyfarwyddwr Integreiddio yn Ymddiriedolaeth y GIG Ysbytai Addysgu Sir Gaerhirfryn.

Cafodd Gary Doherty ei benodi yn brif weithredwr ar y bwrdd ym mis Chwefror 2016 - wyth mis ar ôl i'r bwrdd gael ei roi dan fesurau arbennig yn dilyn adroddiad beirniadol am waith y bwrdd iechyd.

Daeth yr adroddiad o hyd i "gamdriniaeth sefydliadol" ar ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae'r bwrdd wedi bod o dan y math uchaf o oruchwyliaeth gan y llywodraeth ers dros bedair blynedd.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Mark Polin, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae'r Bwrdd yn cydnabod bod arnom angen cyflymu'r newid ac mae'n amser i rywun arall arwain cam nesaf ein taith tuag at wella.

"Bydd Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru yn ymgymryd â swydd y prif weithredwr dros dro o ddydd Llun 10 Chwefror 2020. Gwnaeth Simon y swydd hon pan roddwyd y Bwrdd Iechyd mewn mesurau arbennig yn 2015, felly mae'n adnabod y sefydliad yn dda.

"Bydd y gwaith o chwilio am olynydd parhaol yn dechrau'n syth. Hoffwn ddiolch i Gary ar ran y Bwrdd a'r holl staff am ei waith caled ac rydym yn dymuno'r gorau iddo i'r dyfodol".

Ymateb gwleidyddol

Wrth ymateb i'r newyddion am ymadawiad Mr Doherty, dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd: "Wedi pum mlynedd mewn mesurau arbennig, dydi newid mewn personél ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddim yn ddigon ar ei ben ei hun.

"Mae'r sefyllfa yn Betsi yn symptom o broblem ehangach sydd yn wynebu ein gwasanaeth iechyd. Llywodraeth Lafur Cymru sydd wrth y llyw ac mae'n rhaid iddyn nhw dderbyn y cyfrifoldeb am y perfformiadau gwael, amseroedd aros gwasanaethau brys, canoli gwasanaethau a cholli gwasanaethau lleol.

"Mae'n rhaid i hyn ddod i ben. Rydym angen newid gwirioneddol ac fe all Plaid Cymru gynnig hyn. Dyw cleifion a staff yn haeddu dim llai."

'Annerbyniol'

Dywedodd Darren Millar yr aelod Cynulliad Ceidwadol dros Ddwyrain Clwyd: "Tra fy mod yn falch i weld cydnabyddiaeth gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod perfformiad y bwrdd wedi bod yn annerbyniol a bod angen newid, rwy'n bryderus fod penodiad Simon Dean fel prif weithredwr dros dro yn teimlo fel Groundhog Day.

"Fel dirprwy brif weithredwr Gwasanaeth Iechyd Cymru, mae Mr Dean yn gyfrifol ar y cyd am fethiant i wella gwasanaethau yn y bwrdd iechyd tra mae wedi bod mewn mesurau arbennig, ac rwy'n methu gweld sut mae ei benodiad fel prif weithredwr dros dro yn mynd i ddod a'r newid mae cleifion am ei weld.

"Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gweld perfformiadau gwaethaf eto yn y misoedd diweddar ac fe fydd yn cymryd arweinyddiaeth gref gyda system o atebolrwydd cadarn i gywiro hynny."