Ystyried newid geiriad cwestiwn Cyfrifiad 2021
- Cyhoeddwyd
Gallai geiriad cwestiwn ar grwpiau ethnig yn y Cyfrifiad newid yn dilyn pryderon bod y ffurflen ddrafft yn anwybyddu lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth raglen Newyddion 9 bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n paratoi'r Cyfrifiad, wedi bod yn profi opsiynau gwahanol ar eiriad y cwestiwn er mwyn sicrhau ei fod "mor gynhwysol â phosib".
Ychwanegodd llefarydd ar ran y llywodraeth y byddan nhw'n ystyried y canlyniadau dros yr wythnosau nesaf.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cadarnhau ei bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac yn pwysleisio y bydd pawb yn cael cyfle i nodi eu hunaniaeth yn y ffordd maen nhw'n dymuno.
'Dwi'n Gymraes ac yn Bacistanaidd'
Mae Aleena Khan, 21 oed, sy'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd, yn anhapus nad oes blwch sy'n cynrychioli ei grŵp ethnig yn cael ei gynnwys yn y cwestiwn.
"Dwi fy hunan yn teimlo fy mod i'n Gymraes ac yn Bacistanaidd," meddai.
"Dwi wastad yn ticio'r blwch Asiaidd neu Bacistanaidd oherwydd fi'n teimlo ei fod e'n awgrymu mai dim ond pobl gwyn sy'n gallu perthyn i'r (blwch) Cymreig.
"Ac o weld y blwch Pacistanaidd, mae'n dangos eu bod nhw'n gwahanu'r ddau bobl - felly os wyt ti'n Bacistanaidd, nad wyt ti'n gallu bod yn Gymreig."
Newid ar y ffordd?
Daeth hi'r amlwg erbyn diwedd 2019 y bydd 'na opsiwn yn y cyfrifiad ar gyfer pobl wyn yn unig i nodi eu bod yn cyfri'u hunain yn Gymreig, Seisnig, Albanaidd, Gogledd Wyddelig neu Brydeinig.
Ar hyn o bryd, ar gyfer grwpiau eraill, does 'na ddim blwch i'r bobl hynny sydd eisiau cyfri eu hunain yn yr un ffordd, er bod hynny'n cael ei gynnig yn yr Alban.
Ond gall hynny newid, wrth i opsiynau eraill gael eu hystyried.
Mae cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd wedi bod yn trafod gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd.
"Maen nhw'n dweud eu bod nhw'n casglu tystiolaeth a bod nhw wedi gwneud pop up testing ar y pwynt yma," meddai Nia Jeffreys, Aelod Cabinet ar Gyngor Gwynedd.
"Dwi'n meddwl bod y pwynt egwyddorol, bod pawb efo'r hawl i ddweud bod nhw'n Gymry, yn Gymro neu yn Gymraes, yn hollol amlwg a byddan ni'n dal i bwyso ar yr ONS nes maen nhw'n gwneud y newid yma."
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Ystadegau Gwladol: "Yng Nghyfrifiad 2021, caiff pawb gyfle i nodi eu hunaniaeth fel y dymunant.
"Rydym yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y cwestiwn ar grŵp ethnig mor gynhwysol â phosibl a'i fod yn dal i ddarparu'r data angenrheidiol ar ethnigrwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2019