'Gall gwasanaethau tân ddelio â bygythiadau eraill'

  • Cyhoeddwyd
gweithwyr tan
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithwyr tân eisoes yn cael eu hanfon yn lle ambiwlans mewn rhai achosion os ydynt yn agosach

Fe allai gwasanaethau tân ac achub Cymru chwarae rhan ehangach o ran cadw'r cyhoedd yn ddiogel dan gynigion newydd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r gwasanaethau wedi llwyddo cystal i atal achosion o dân nes eu bod â digon o amser i fod mewn sefyllfa i dderbyn dyletswyddau newydd.

Maen nhw'n dweud bod nifer o orsafoedd tân gwledig yn anghynaladwy gan eu bod ond yn ymateb i nifer fach o danau bob mis.

Dywed gweinidogion y gallai'r gwasanaeth tân wneud gwaith sy'n cael ei gwblhau gan y GIG ar hyn o bryd.

Mae Undeb y Brigadau Tân - yr FBU - wedi cael cais am ymateb.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai gorsafoedd gwledig ond yn ymateb i nifer fach o danau bob mis, yn rhannol yn sgil gwaith ataliol

'Arbenigedd a pharch'

Mewn datganiad, mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am y gwasanaeth tân, Hannah Blythyn, yn dweud bod pwyslais y gwasanaethau ar atal tanau a gwella ymwybyddiaeth o risgiau tân wedi cyfrannu at leihau nifer, a difrifoldeb, achosion o dân,

"Mae diffoddwyr tân wedi cael eu hyfforddi'n dda i ddelio ag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, yn ogystal â thân," meddai, sy'n golygu eu bod â'r "arbenigedd a'r parch" i godi ymwybyddiaeth ynghylch bygythiadau eraill hefyd, ac i'w hatal.

"Mae potensial amlwg i'r gwasanaeth wneud cyfraniad gwirioneddol at gefnogi'r GIG yn benodol, boed hynny o ran ymateb i argyfyngau meddygol neu helpu i atal damweiniau fel codymau yn y cartref," dywedodd, "ac mae tystiolaeth glir y gall hyn sicrhau gwell canlyniadau ac arbedion sylweddol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae "potensial go iawn i fanteisio ar lwyddiant" y gwasanaeth tân "a chynyddu ei werth i bobl Cymru", medd Hannah Blythyn

Dywed Ms Blythyn bod yna nifer o "enghreifftiau da o hyn yn digwydd" yn achlysurol - ar raddfa fechan, yn aml - ond mae hi'n credu bod "gofyn i ni fynd ymhellach... mewn ffordd fwy cyson a strategol.

"Rwy'n dymuno gweld Gwasanaeth Tân ac Achub sy'n delio ag amryw o fygythiadau i iechyd a diogelwch pobl, a hynny o ran atal ac ymateb i argyfyngau, gan ategu yn hytrach na dyblygu gwaith gweithwyr proffesiynol eraill.

"Dim ond drwy wneud hyn y gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar werth cyhoeddus y Gwasanaeth a sicrhau dyfodol cynaliadwy ar ei gyfer."

Ychwanegodd y bydd yna gyhoeddiad arall maes o law "ynglŷn â'r ffordd ymlaen".

Angen cytundeb cadarn

Dywed Llywodraeth Cymru bod angen cytundeb ynghylch tâl ac amodau diffoddwyr tân i adlewyrchu unrhyw ddyletswyddau ehangach yn deg, ond bod trafodaethau "ar lefel y DU wedi bod yn araf iawn yn hyn o beth".

Maen nhw'n dweud eu bod wedi ymrwymo "i ystyried darparu cymorth ariannol ar gyfer cytundeb tâl sy'n bodloni anghenion Cymru a diffoddwyr tân Cymru".

Mae eu datganiad yn mynd ymlaen i ddweud bod angen "cytundeb cadarn a strategol rhwng y Gwasanaeth Tân, y GIG a phartneriaid eraill, er mwyn gallu defnyddio adnoddau'r cyntaf lle mae eu hangen fwyaf" a bod "uwch reolwyr eisoes yn cynnal trafodaethau adeiladol ynghylch hyn".