Plannu blodau i ymladd canser
- Cyhoeddwyd
Mae un dyn o Fôn yn defnyddio'r lili wen fach yn y frwydr yn erbyn canser.
Ers deunaw mlynedd mae Gwilym Lloyd Davies wedi bod yn gwahodd y cyhoedd i'w gartref ger Llangefni i fwynhau'r carped o eirlysiau sy'n tyfu yno bob gaeaf - miloedd wedi eu plannu ganddo fo'i hun.
Casglu arian i elusennau canser ydi'r bwriad a hynny ar ôl i'r salwch effeithio sawl un o'i deulu agos, yn cynnwys ei chwaer a'i gŵr. Bu farw'r ddau o ganser pan oedden nhw yn eu 30au gan adael tri o blant o dan 10 oed yn amddifad.
"Mae pawb wedi cael eu heffeithio gan ganser - mae o'n bob man, a 'da ni'n sicr wedi cael lot yn ein teulu ni," meddai.
"Mae'r eirlysiau wedi dod i gynrychioli canser a chwffio yn erbyn y salwch - i fi yn sicr, ac i lot o bobl eraill hefyd dwi'n meddwl.
"Maen nhw'n ffeitars. Maen nhw'n cwffio drwy bob dim i ddod allan, trwy'r eira ac maen nhw'n tyfu trwy ddail. Os ti wedi rhoi carreg lawr arnyn nhw maen nhw'n mynd ffordd arall i ddod fyny.
"Maen nhw hefyd yn arwydd bod y gwanwyn yn dod - bod dyfodol gwell ar y ffordd.
"Picelli eira dwi'n eu galw nhw - maen nhw'n tyfu fyny fel picelli bach drwy bob dim."
Yn enedigol o'r Bala, roedd yn byw yn Llandudno am flynyddoedd cyn symud i fyw i Henblas, ger Llangristiolus, chwarter canrif yn ôl.
Roedd y blodau bach gwyn yno'n barod ac fe benderfynodd blannu mwy - ac mae wedi gwneud byth ers hynny. Bob mis Mawrth, cyn i'r lili wen fach ddiflannu am flwyddyn arall, mae'n eu gwasgaru nhw i wahanol rannau o'r ardd a'r goedwig gan obeithio gweld mwy'r gaeaf canlynol.
"Dwn i ddim faint dwi wedi plannu - miloedd ar filoedd," meddai. "Tasa gen i geiniog am bob un dwi wedi ei blannu fyddwn i'n filionêr.
"Mae yna rywbeth am y blodyn sy'n mynd yn ôl i fy mhlentyndod. Roedd Nain yn plannu cennin Pedr efo cylch o eirlysiau o'u cwmpas. Roedd Nain yn hoff iawn ohonyn nhw a dwinau hefyd."
Ond mae'n dweud bod ei hoffter o ohonyn nhw'n ddim byd i'w gymharu efo'r galanthophiles - pobl sy'n gwirioni'n lân ar y blodau bach gwyn ac yn casglu gwahanol fathau ohonyn nhw, weithiau am brisiau mawr.
Yn 2015 fe werthwyd un lili wen fach - y Galanthus Plicatus - am £1390. Mae'r cannoedd sy'n ymweld â Henblas dros un penwythnos yn y gaeaf hefyd yn brawf o'u poblogrwydd.
"Mae rhai yn bonkers amdanyn nhw," meddai Gwilym, oedd yn arfer rhedeg gwesty ac sydd heb unrhyw gefndir mewn garddio.
"Ddaeth un dyn o Iwerddon yma un flwyddyn - roedd o'n galanthophile. Wnaeth o holi faint o wahanol rai sydd yma. Doedd gen i'm syniad - felly wnaeth o ddweud ei fod am fynd rownd i gyfri.
"Mae yna gannoedd yn dod yma dros y penwythnos a rhai yn dod bob blwyddyn. Mae yna bobl o Brestatyn, Abergele a Pwllheli wedi ffonio eleni yn gofyn a ydw i'n gwneud o eto eleni, a phryd.
"Mae rhai yn dweud 'da ni methu dod eleni, ond allwn ni ddod rhywbryd arall i brynu rhai'."
Drwy ofyn am gyfraniad, gwerthu eirlysiau a gwneud paned a chacen mae penwythnos eirlysiau Henblas yn codi miloedd o bunnoedd bob blwyddyn.
Ers 2002 mae Gwilym, oedd yn arfer codi arian i elusennau cancr drwy redeg marathons, wedi codi bron i £65,000.
Eleni eto, wrth i'r ardd gael ei agor i'r cyhoedd ar 8 a 9 Chwefror, ei obaith ydi bod Cancer Research UK a Tenovus unwaith eto yn elwa'n fawr o'r blodyn bach gwyn.
Hefyd o ddiddordeb: