Galw am ymestyn addysg i bawb hyd at 18 oed
- Cyhoeddwyd
Mae corff o arbenigwyr wedi awgrymu y dylai pobl ifanc yng Nghymru barhau mewn addysg neu hyfforddiant hyd nes eu bod yn 18 oed.
Mae tua 10.3% o bobl ifanc 16-18 oed yn ddi-waith, neu heb fod mewn addysg neu hyfforddiant yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Dywed melin drafod, neu 'think tank' y Sefydliad Dros Ymchwil Polisi Cyhoeddus y dylai'r arfer o adael i bobl ifanc beidio barhau mewn addysg ar ôl troi'n 16 oed ddod i ben, er mwyn eu hatal rhag ennill cyflogau bychan mewn swyddi dros dro.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi creu 74,000 o brentisiaethau ers 2016, a bod y mwyafrif helaeth o bobl ifanc yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant ar ôl troi'n 16.
Yng Nghymru fe all plant adael ysgol ar ddechrau'r haf yn y flwyddyn academaidd pan maen nhw'n troi'n 16 oed ond nid oes rhaid iddyn nhw ddilyn cwrs hyfforddi na aros mewn addysg bellach.
Lloegr
Yn Lloegr mae'n rhaid i ddisgyblion astudio neu hyfforddi hyd nes eu bod yn 18 oed - drwy fynd i goleg neu i'r chweched dosbarth, dilyn prentisiaeth neu astudio rhan amser tra'n gwirfoddoli neu'n gweithio.
Dywed y Sefydliad Dros Ymchwil Polisi Cyhoeddus y dylai cyfnod gorfodol o addysg ychwanegol am ddwy flynedd, yn y dosbarth neu'r gweithle, gael ei gyflwyno yng Nghymru.
Yn ôl Russell Gunson, cyfarwyddwr gyda'r Sefydliad, roedd pobl ifanc yn eu harddegau mewn peryg o adael ysgol yn 16 oed a dilyn gyrfaoedd o ansawdd gwael, ac fe ddylai'r rhai sydd mewn gwaith dderbyn hyfforddiant o ansawdd da yr un pryd:
"Ar hyn o bryd rydym yn clodfori ein hunain am gael pobl ifanc i mewn i waith ond heb wirio'n union os yw'r rhain yn swyddi o ansawdd uchel neu beidio.
"Mae angen sicrhau fod holl blant Cymru yn cael addysg neu hyfforddiant, drwy brentisiaethau, hyfforddiant yn y gweithle, neu drwy golegau, ysgolion neu brifysgolion, neu mewn dosbarthiadau.
"Fel hyn fe allwn osod sail gadarn i bobl ifanc ar gyfer gyrfaoedd o ansawdd fydd o fantais i ddyfodol Cymru".
Twf niferoedd pensiynwyr
Yng Nghymru dywed adroddiad y felin drafod y bydd 40 o bob 100 o bobl sydd o oedran gwaith yn bensiynwyr erbyn diwedd 2030 - ac fe fydd y nifer o swyddi fydd mewn perygl o gael eu gwneud gan beiriannau yn 6.5%, sydd yn uwch na'r cyfartaledd Prydeinig.
Mae'r corff am weld £60m y flwyddyn yn ychwanegol yn cael ei wario i sicrhau fod 30,000 o oedolion mewn addysg erbyn 2025, gyda sefydliad newydd yn cael ei agor er mwyn hybu addysg gydol oes ar-lein a darparu hyfforddiant wyneb yn wyneb.
Ychwanegodd Mr Gunson fod pethau'n mynd i'r cyfeiriad cywir, ond mai dim ond "camau bychain" oedd y diwygiadau ym meysydd addysg a sgiliau ac roedd perygl y byddai Cymru'n cael ei gadael ar ôl.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain fod dros 90% o bobl ifanc yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant ar ôl 16 oed.
"Mae gennym nifer o bolisïau sydd o gymorth i bobl ifanc gael mynediad i waith neu addysg, yn cynnwys ein buddsoddiad mewn prentisiaethau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2019
- Cyhoeddwyd20 Medi 2018