Darparwyr prentisiaethau 'ddim yn ateb anghenion'
- Cyhoeddwyd
Dydy'r mwyafrif o ddarparwyr sy'n cynnig prentisiaethau uwch ddim yn eu rheoli'n dda a dyw nifer o'r cyrsiau ddim yn ateb anghenion cyflogwyr, yn ôl arolygwyr addysg a hyfforddiant Estyn.
Cafodd prentisiaethau uwch eu cyflwyno yn 2011 i ddatblygu sgiliau pellach gweithwyr.
Dywedodd adroddiad gan Estyn bod nifer o'r rhaglenni sy'n cael eu cynnig yn hen a ddim yn adlewyrchu arferion presennol y diwydiant.
Roedd hyn yn golygu bod gweithwyr Dŵr Cymru yn gorfod defnyddio darparwr yn Lloegr i gael eu hyfforddi, meddai'r adroddiad.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn rhoi blaenoriaeth i sgiliau uwch fel rhan o'r nod o greu 100,000 prentisiaeth erbyn 2021.
'Pryder sylweddol'
Mae prentisiaethau uwch yn cyfateb i rai cyrsiau prifysgol, ac maen nhw fel arfer yn cymryd dwy flynedd i'w cwblhau ochr yn ochr â swydd y dysgwr.
Yn 2016-17 roedd 11,130 o ddysgwyr yn cymryd prentisiaethau uwch, sef 24% o'r holl brentisiaethau.
Ond er bod cynnydd yn y nifer sy'n cael eu cwblhau, dywedodd Estyn bod y gyfradd yn is nag i brentisiaethau eraill ac yn "amrywio'n ormodol" rhwng gwahanol ddarparwyr.
Yn 2017, fe wnaeth 77% o brentisiaethau uwch gael eu cwblhau ond dywedodd Estyn bod y nifer sy'n gadael rhaglenni'n gynnar yn parhau'n "bryder sylweddol".
Mae'r mwyafrif o bobl sy'n gwneud prentisiaethau uwch yn datblygu sgiliau newydd "gwerthfawr" a nifer yn dod yn "aelodau staff mwy effeithiol", meddai'r adroddiad.
Ond dywedodd nad oedd rheolwyr yn y mwyafrif o ddarparwyr wedi cael "digon o effaith o ran sicrhau gwelliant mewn cyfraddau cyrhaeddiad".
Ychwanegodd mai "dim ond ychydig ddarparwyr dysgu yn y gwaith sy'n rheoli'r rhaglenni prentisiaeth uwch yn dda ac sydd wedi sicrhau deilliannau cryf yn gyson".
Yn ôl yr adroddiad, mae yna ystod eang o brentisiaethau ar gael, ond mae nifer ohonynt "yn hen ac nid ydynt yn adlewyrchu arferion presennol y diwydiant nac yn ateb galwadau'r cyflogwr".
Yn absenoldeb fframwaith addas i weithwyr Dŵr Cymru, mae'r cwmni yn defnyddio darparwr yn Lloegr er mwyn cael eu hyfforddi.
'Codi cyfraddau cwblhau'
Yn ôl yr adroddiad, mae rhai cwmnïau mawr eraill fel Go Compare, Centrica, Brains a'r BBC wedi gorfod datblygu eu prentisiaethau eu hunain oherwydd nad oedd eu gofynion yn cael eu darparu yn barod.
Dywedodd Estyn mai ychydig iawn o ddysgwyr sy'n cwblhau eu hasesiadau yn y Gymraeg, er bod aseswyr a deunyddiau Cymraeg ar gael.
Ychwanegodd y prif arolygydd, Meilyr Rowlands: "Mae prentisiaethau lefel uwch yn ffordd ddelfrydol i gydnabod medrau pobl yn y gweithle ac iddynt gael cymhwyster ffurfiol tra'n ennill cyflog.
"Yr her nawr yw codi cyfraddau cwblhau i gyd-fynd â lefel prentisiaethau eraill a chynyddu'r niferoedd sy'n ymgymryd â phrentisiaethau uwch mewn meysydd fel technoleg gwybodaeth a pheirianneg."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae yna gynnydd da tuag at y targed o 100,000 o brentisiaethau.
Dywedodd llefarydd eu bod am sicrhau bod "y cyfleoedd cywir yn cael eu creu yn y meysydd cywir, ac ar y lefelau cywir fel bod unigolion, busnesau a'r economi yn ffynnu".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2018
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2018