Plaid Cymru'n honni 'safonau dwbl' gweinidog
- Cyhoeddwyd
Mae gwrthwynebiad gweinidog yn Llywodraeth Cymru i gau ward ysbyty yn dangos "safonau dwbwl" yn ôl llefarydd iechyd Plaid Cymru.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod ymgyrch Jane Hutt yn erbyn cau ward yn Ysbyty'r Barri hefyd yn codi cwestiynau am gyfrifoldeb cyfunol yn y llywodraeth.
Mae Ms Hutt, AC Bro Morgannwg, yn ddirprwy weinidog a phrif chwip yng nghabinet Mark Drakeford.
Dywedodd y llywodraeth y gall gweinidogion "fynegi safbwynt ar faterion etholaethol" os ydyn nhw'n gwneud yn glir nad ydyn nhw'n gweithredu fel gweinidog.
Swydd Ms Hutt yn y llywodraeth yw "cefnogi cyfrifoldebau" y prif weinidog.
Ym mis Medi dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod yn ystyried cau Ward Sam Davies yn Ysbyty'r Barri.
Mae'r ward 23 gwely yn bennaf ar gyfer cleifion oedrannus.
O dan gynllun y bwrdd fe fyddai'r cleifion wedi derbyn gofal yn Ysbyty Llandochau neu "yn agosach at adre".
Roedd yn rhan o strategaeth ehangach y bwrdd iechyd o fuddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol.
Dywedodd y bwrdd fod arolwg wedi dangos bod 69% o gleifion ar y ward yn ddigon iach i adael, ac y byddai'r newid yn help i leihau "arosiadau hir a dianghenraid mewn ysbyty".
Mae darparu gofal y tu allan i ysbytai hefyd yn nod i Lywodraeth Cymru.
Ysgrifennodd Jane Hutt ar ei gwefan yn ystod haf 2019 ei bod yn "bryderus iawn" am gynlluniau i gau'r ward ac y byddai'n "parhau i greu dadl" dros ei chadw.
Cafodd deiseb i atal y newid ei arwyddo gan dros 1,300 o bobl. Cafodd y ddeiseb ei threfnu gan undeb Unsain, ac fe ymddangosodd Ms Hutt gydag ymgyrchwyr y tu allan i'r Senedd ym mis Hydref.
Yn yr un mis, dywedodd y gweinidog iechyd Vaughan Gething y byddai'n "amhriodol" iddo wneud sylw ar yr ymgyrch.
Cafodd y cynllun ei ohirio gan y bwrdd iechyd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus cyn y Nadolig.
'Cyfleus iawn'
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC, Plaid Cymru: "Mewn cyfnod lle mae'r prif weinidog wedi dweud na ddylai gwleidyddion ymyrryd mewn penderfyniadau mewn perthynas ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg, rydym nawr yn gwybod fod gweinidog yn y llywodraeth wedi bod yn ceisio dylanwadu ar benderfyniad ar ddyfodol ward mewn ysbyty arall.
"Safonau dwbl yw hyn.
"Hefyd rhaid meddwl am gyfrifoldeb cyfunol - mae gweinidogion i fod i gymryd cyfrifoldeb cyfunol am benderfyniadau'r llywodraeth.
"Mae penderfyniadau'n ymwneud â wardiau fel arfer yn deillio o fframwaith polisi gan y llywodraeth. Mae'n gyfleus iawn pan mae gweinidog yn gallu gwneud safiad ar fater penodol a dweud ei bod hi'n ymddangos fel pe bai'n anghytuno gyda'r fframwaith polisi yna."
Mae'r côd gweinidogol - rheolau'n ymwneud ag ymddygiad gweinidogion llywodraeth - yn dweud fod gan weinidogion yr hawl i "fynegi barn ar faterion etholaethol i'r gweinidog sy'n gyfrifol... cyn belled â'u bod yn gwneud yn glir eu bod yn gweithredu fel cynrychiolydd eu hetholwyr ac nid fel gweinidog," ond rhaid iddyn nhw hefyd "osgoi beirniadu" polisïau Llywodraeth Cymru.
Mae'r côd hefyd yn dweud y dylai gweinidogion fynegi eu barn "mewn ffordd sydd ddim yn creu trafferthion i weinidogion sy'n gorfod gwneud y penderfyniad, a'u bod hefyd yn ystyried cyfrifoldeb cyfunol y Cabinet am y penderfyniad".
Dywedodd ffynhonnell o Llafur Cymru: "Sut gall gweinidog brotestio y tu allan i adeilad y Cynulliad yn erbyn cau ward ysbyty yn eu hetholaeth ac aros yn eu swydd?
"Mae'n amlwg yn groes i'r côd gweinidogol, ac mae pobl wedi colli swyddi gweinidogol yn y gorffennol am brotestio yn eu hetholaethau, heb son am y tu allan i'r Senedd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r cod gweinidogol yn glir y gall gweinidogion fynegi barn am faterion etholaethol cyn belled eu bod yn pwysleisio eu bod yn gweithredu fel cynrychiolydd eu hetholwyr ac nid fel gweinidog."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2020