Dyfodol uned frys: Drakeford yn beirniadu gwleidyddion

  • Cyhoeddwyd
Ambulances
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynlluniau i gau adran frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Meddygon, nid gwleidyddion, ddylai benderfynu ar ddyfodol adran frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn ôl Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford.

Mae gwleidyddion y Blaid Llafur wedi bod yn ymgyrchu i atal yr uned rhag cael ei chau.

Ond beirniadodd Mr Drakeford wleidyddion eraill am beidio gadael y mater i bobl sydd â chefndir meddygol.

"Mae angen iddo fod yn benderfyniad clinigol yn hytrach na gwleidyddol," meddai.

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn ystyried cynlluniau i gau'r uned frys yn Llantrisant un ai'n llwyr neu dros nos.

Cafodd penderfyniad i ddarparu gwasanaeth gofal brys mewn llai o ysbytai ei wneud yn 2015. Er hyn, does dim penderfyniad terfynol wedi'i wneud eto.

Dywedodd y bwrdd iechyd yr wythnos ddiwethaf bod angen gwneud rhywbeth i osgoi "perygl annerbyniol i ddiogelwch cleifion" gan fod y gwasanaeth yn wynebu prinder staff difrifol.

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth AS Llafur Rhondda, Chris Bryant, gyfarfod â phenaethiaid iechyd er mwyn trafod dyfodol yr ysbyty.

Dywedodd AS Pontypridd, Alex Davies-Jones, yn ogystal â'i chyd-weithiwr yn y Cynulliad Mick Antoniw, fod angen achub yr uned frys.

Mae gwleidyddion o bleidiau eraill, fel AS Plaid Cymru Leanne Wood, hefyd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y penderfyniad posib i gau'r safle.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford bod y sefyllfa'n bell o fod yn un ble fyddai angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd

Yn ystod cynhadledd i'r wasg dydd Llun, dywedodd Mr Drakeford mai pwnc ar gyfer meddygon Cwm Taf Morgannwg yw'r mater.

"Mae angen sicrhau bod y drafodaeth yn cael ei gynnal yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg gan feddygon a'r bwrdd," meddai.

Ychwanegodd: "Dwi'n credu mai dyna sut ddylai'r ddadl gael ei weithredu yn hytrach na gan wleidyddion sy'n meddwl eu bod nhw mewn gwell sefyllfa na meddygon."

Pan gafodd Mr Drakeford ei holi a fyddai Llywodraeth Cymru yn ymyrryd yn y mater, dywedodd: "Dydyn ni ddim wedi cyrraedd y pwynt yna o bell ffordd."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth fod sylwadau Mr Drakeford yn "ymgais sinigaidd amlwg gan Lafur i dynnu'r sylw oddi ar eu methiannau eu hun".