'Neb yn gwrando' ar bobl ifanc Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ifanc a oedd yn dyst i ffrwgwd tu allan i KFC Caernarfon wedi dweud fod pobl ifanc yr ardal yn ymateb yn wrthgymdeithasol oherwydd bod "neb yn poeni" amdanyn nhw.
Yn ôl criw fu'n siarad gyda BBC Cymru, does "neb yn gwrando" arnyn nhw ac mae angen "mwy o bethau i wneud" yn yr ardal.
Ym mis Ionawr fe wnaeth yr heddlu osod gorchymyn gwasgaru yn y dref i fynd i'r afael â phroblemau gwrthgymdeithasol.
Wrth ymateb dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod nhw'n cynnig nifer o gyfleoedd i bobl ifanc yr ardal.
Ychwanegodd Heddlu'r Gogledd fod angen i'r gymuned gydweithio i fynd i'r afael â phroblemau tebyg.
Ers y gorchymyn mae fideo wedi ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn dangos llanc ifanc yn taro car heddlu gyda'i droed.
Cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd fod unigolyn wedi cael ei chwistrellu â sylwedd bupur yn y digwyddiad ar ddiwedd mis Rhagfyr.
Dywedodd y bobl ifanc oedd yn dyst i'r digwyddiad nad oes digon iddyn nhw i wneud yn y dref.
Mae angen "mwy o bethau fel youth clubs a tripiau" i lefydd, meddai.
"'Da ni isio cael gair ni rownd a g'neud Caernarfon yn lle gwell," meddai.
Tra bod y bobl ifanc yn cydnabod fod yr hyn ddigwyddodd tu allan i KFC yn anghywir, dywed mai dyma'r unig ffordd yr oedd pobl yn cymryd sylw.
"'Mond fel 'ma 'da ni'n cael sylw. Os 'da ni'n siarad does 'na ddim byd yn dod ohono fo."
'Torcalonnus'
Yn 2018 fe gyhoeddodd Cyngor Gwynedd eu bod yn bwriadu cau eu holl glybiau ieuenctid gan sefydlu un fyddai'n gwasanaethu'r sir gyfan a hynny er mwyn gwneud arbedion o bron i £300,000.
Ond fe gafodd y penderfyniad ymateb chwyrn, gan arwain y cyngor i gynnig nawdd i rai cymunedau i sefydlu clybiau eu hunain.
Mewn tro pedol y llynedd fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bwriad i ddyblu'r cyllid oedd ar gael ar gyfer gwasanaethau pobl ifanc fel rhan o strategaeth newydd, gan gyfaddef fod "methiannau wedi bod yn y gorffennol".
Mae'r cynghorydd tref Caernarfon, Jason Parry yn dweud ei fod wedi rhybuddio'r cyngor o effaith y toriadau ddwy flynedd yn ôl.
"Mae o'n dorcalonnus yr hyn sydd wedi digwydd yn y dref," meddai, "ond rhaid cofio mai llond llaw o bobl sy'n ymddwyn fel hyn."
Ychwanegodd fod y cyngor wedi gorfod "derbyn fod toriadau" ers 12 mlynedd, ond bod yn rhaid blaenoriaethu.
Mewn datganiad fe ddywedodd Cyngor Gwynedd eu bod nhw'n cynnig nifer o gyfleon, gweithgareddau a phrosiectau amrywiol i bobl ifanc ac yn gweithio ar draws y sir.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd fod nifer o fentrau yn bodoli i gefnogi pobl ifanc lleol ond bod angen i'r gymuned gydweithio i fynd i'r afael â'r broblem.
Nid Caernarfon yw'r unig ardal i wynebu ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda Bangor, Llangefni a Llandudno oll wedi profi digwyddiadau tebyg ers dechrau 2020.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2020