Heddlu yn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd
CaernarfonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gorchymyn mewn grym tan nos Sul

Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod gorchymyn gwasgaru mewn grym yng Nghaernarfon er mwyn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Daeth y gorchymyn i rym nos Wener ac mae'n para tan nos Sul.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol nos Wener dywedodd Heddlu Gogledd Cymru: "I dargedu grwpiau o bobl ifanc sy'n ymddwyn mewn modd annerbyniol a gwrthgymdeithasol yn y dref (Caernarfon) rydym wedi cyhoeddi gorchymyn a fydd yn aros yn ei le trwy gydol y penwythnos - yn rhedeg am 48 awr o nos Wener 3 Ionawr, ymlaen tan nos Sul, 5 Ionawr."

Roedd y neges hefyd yn "apelio ar rieni yng Nghaernarfon i feddwl yn ofalus am ble mae'ch plant dros y penwythnos" ac yn apelio ar y cyhoedd i "helpu'r heddlu i atal troseddu ac i amddiffyn trigolion lleol."

Fe ddaw'r rhybudd wythnos wedi i siop bwyd cyflym yn y dre wahardd pobl ifanc oni bai eu bod yng nghwmni oedolyn.

Ym Mai 2018 fe osododd yr heddlu orchymyn gwasgaru yng Nghaernarfon wedi i bobl ifanc ddechrau dringo ar doeau am hwyl.

Mae gorchymyn gwasgaru yn rhoi hawl i'r heddlu allu gorfodi unrhyw un sy'n cael ei amau o droseddu i adael yr ardal am hyd at 48 awr.

'Mater i'r Cyngor'

Wrth gael ei holi gan Cymru Fyw dywedodd Maer Caernarfon, y Cynghorydd Tudor Owen, ei fod "yn siomedig o glywed am y gorchymyn.

"Dwi'n gobeithio gweld y clerc fore Llun fel bod y mater yn cael ei drafod gan y Cyngor yn fuan.

"Mae angen iddo fod yn fater brys ar yr agenda - dwi'n teimlo bod yna dipyn i bobl ifanc 'neud yn y dre. Mae 'na glybiau ieuenctid a sinema gyffrous yn Galeri ond efallai bod angen gwneud mwy."