Colli 'sawl cyfle' wrth drin babi fu farw o sepsis
- Cyhoeddwyd
Mae cwest mewn clywed bod "sawl cyfle wedi'u colli" wrth drin bachgen tri mis oed a fu farw o sepsis mewn ysbyty yng Nghaerdydd.
Bu farw Lewys Crawford o septisemia meningocaidd yn Ysbyty Athrofaol Cymru ym Mawrth 2019.
Mae'r cwest eisoes wedi clywed bod meddyg pediatrig wedi "camfarnu" trwy beidio rhoi gwrthfiotig i'r baban yn gynharach yn ei driniaeth.
Yn ôl Dr Helen Fardy, ymgynghorydd pediatrig ers 20 mlynedd, roedd Lewys "yn y categori risg uchel a dylai fod wedi cael gwrthfiotigau o fewn awr".
Dywedodd meddyg pediatrig arall, Dr Malcolm Gajraj, mai "ychydig iawn" oedd Lewys wedi ymateb i driniaeth gofal dwys.
Clywodd y cwest bod "pedwar cyfle wedi eu colli i roi gofal i Lewys".
Dywedodd Dr Fardy: "Roedden ni'n teimlo bod sawl cyfle wedi'u colli i reoli cyflwr Lewys yn ddigonol".
'Llai o achosion sepsis - llai o ymwybyddiaeth'
Clywodd y gwrandawiad bod Dr Malcolm Gajraj wedi trosglwyddo gofal Lewys i Dr Fardy ac roedden nhw'n pryderu bod y baban "yn eithriadol sâl".
Roedd hylif yn gollwng i'w abdomen gan bwyso ar ei ysgyfaint, ac roedd nifer o'i organau yn methu.
Dywedodd Dr Fardy eu bod yn llwyddo i reoli ei gyflwr ar un lefel ond roedd yn amhosib atal ei gorff rhag ymateb i'r llid.
Yn ôl Dr Gajraj mae sepsis yn llai cyffredin nag yr oedd, ac mae'n amau bod llai o achosion "yn lleihau'r ymwybyddiaeth ohono ymhlith y rhai sy'n cael hyfforddiant".
Dywedodd y crwner Graeme Hughes bod yna oedi o saith awr rhwng derbyn Lewys i'r ysbyty a rhoi cyffuriau gwrthfiotig iddo.
Roedd yn ymddangos, meddai Dr Fardy, "bod yna beth pryder ynghylch oedi o ran triniaeth" pan gafodd Lewys ei drosglwyddo i'w gofal hi.
Ychwanegodd bod y timau nyrsio wedi cynyddu'r flaenoriaeth o ran cyfeirio ac ymchwilio ymhellach i'r achos.
'Meini prawf risg uchel'
Clywodd y cwest y byddai canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi nodi angen i drin Lewys "gyda rhywfaint o frys".
Roedd Lewys yn cyd-fynd â "meini prawf risg uchel" canllawiau NICE, medd Dr Fardy.
Ychwanegodd bod cyfle wedi'i golli dan y meini prawf hynny pan wnaeth meddyg arall gofnodi tymheredd o 39º wrth asesu Lewys yn y lle cyntaf.
Dywedodd: "Buaswn i wedi meddwl [yn yr un sefyllfa] y dylai haint bacterol a sepsis posib fod ar dop y rhestr".
Mae'r cwest yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2020