Gohirio gêm y Dreigiau oherwydd pryder am Storm Dennis

  • Cyhoeddwyd
Rodney ParadeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rodney Parade hefyd yn gartref i Glwb Pêl-droed Casnewydd a Chlwb Rygbi Casnewydd

Mae gêm gartref y Dreigiau yn erbyn Benetton, oedd i fod i gael ei chwarae am 19:35 nos Sadwrn, wedi'i gohirio oherwydd pryderon am Storm Dennis.

Dywedodd y Pro14 fod y penderfyniad wedi'i wneud oherwydd pryder am "ddiogelwch cefnogwyr a staff".

Mae rhybudd oren am law a rhybudd melyn am wynt mewn grym ar gyfer ardal Casnewydd ddydd Sadwrn.

Mae trafodaethau yn parhau ynglŷn â phryd y bydd y gêm yn cael ei chwarae.