Pro14: Scarlets 9-14 Caeredin

  • Cyhoeddwyd
Dan Jones o'r ScarletsFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Dan Jones o'r Sgarlets yn wynebu Willhem Nel o Gaeredin

Llwyddodd Caeredin i guro'r Scarlets o 14-9 mewn amgylchiadau anodd ym Mharc y Sgarlets.

Daeth dau gais i'r ymwelwyr gan Duhan van der Merwe a Matt Scott, gyda Jaco van der Walt yn trosi ddwywaith i sicrhau fod Caeredin ar y blaen ar yr hanner o 14-6.

Er bod y Scarlets wedi rheoli'r ail hanner nid oedd eu hymdrechion yn ddigon i gynyddu'r pwyntiau - gyda Dan Jones yn unig yn hawlio pwyntiau'r tîm cartref gyda thair cic gosb.

Fe amddiffynnodd Caeredin i'r eithaf tua'r diwedd, yng nghanol gwynt a glaw Storm Dennis. Seren y gêm oedd Bill Mata.

Scarlets:O'Brien; Conbeer, Fonotia, S Hughes (capt), S Evans; D Jones, Hardy; P Price, T Davies, Kruger , Rawlins, Lousi, A Shingler, Macleod, Cassiem

Eilyddion: Booth, R Evans, Sebastian, Ratuva, D Davis, Blacker, Asquith, Cummins

Caeredin: Hoyland; Sau, Bennett, Scott, D van der Merwe; J van der Walt, Pyrgos (capt); Schoeman, Cherry, WP Nel, Carmichael, Gilchrist, Haining, Crosbie, Mata

Eilyddion: Willemse, Bhatti, Ceccarelli, McKenzie, Barclay, Groom, Hickey, G Taylor