Pro14: Y Gweilch 26-24 Ulster

  • Cyhoeddwyd
GweilchFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Scott Otten o'r Gweilch yn taclo Robert Baloucoune o Ulster ar y Liberty nos Sadwrn

Llwyddodd y Gweilch i gipio buddugoliaeth haeddiannol yn erbyn Ulster yn Stadiwm Liberty bnawn Sadwrn, gan ddod â chyfnod o bedwar mis heb ennill gêm i ben.

Fe ddaeth y gic gosb fuddugol o droed Luke Price wedi 76 o funudau, ac yntau'n hawlio 11 pwynt i'r Gweilch ar y noson.

Daeth dau gais i'r tîm cartref gan Scott Otten a chais arall gan ganolwr Cymru Owen Watkin.

Fe frwydrodd Ulster yn ôl gyda cheisiadau gan Robert Baloucoune, Matt Faddes a'r canolwr Stuart McCloskey.

Roedd Storm Dennis wedi achosi amgylchiadau anodd i'r ddau dîm, ond gyda'r fuddugoliaeth fe lwyddodd y Gweilch i ddod a rhediad o 13 o gemau heb ennill i ben o'r diwedd.

Y Gweilch: C Evans; Dirksen, O Watkin, K Williams, L Morgan, L Price, A Davies; N Smith, Otten, S Gardiner, A Beard, B Davies, D Lydiate (capt), O Cracknell, G Evans

Eilyddion: S Parry, G Thomas, G Gajion, L Ashley, S Cross, S Venter, T Thomas-Wheeler, J Hook

Ulster: M Faddes; R Baloucoune, L Marshall, S McCloskey, L Ludik; B Burns, D Shanahan; E O'Sullivan, A McBurney, M Moore, A O'Connor (capt), K Treadwell, M Rea, S Reidy, M Coetzee

Eilyddion: J Andrew, J McGrath, T O'Toole, D O'Connor, J Murphy, J Stewart, B Johnston, C Gilroy