Dyn wedi marw ar ôl disgyn i afon yn Ystradgynlais
- Cyhoeddwyd

Y gwasanaethau brys ger Clwb Rygbi Trebanos
Mae dyn wedi marw ar ôl iddo ddisgyn i'r afon yn Ystradgynlais tua 10:00 fore dydd Sul.
Fe gafwyd hyd i'w gorff yn ddiweddarach ar ran o'r afon yn ardal Trebanos.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.
Daw'r newyddion wrth i Heddlu De Cymru gyhoeddi fod y llifogydd yn ddigwyddiad o bwys sylweddol, ac mae'r gwasanaethau brys yn parhau i gynnig cymorth i gymunedau ar hyd y de yn dilyn glaw trwm dros y penwythnos.

Cerbydau'r gwasanaethau brys yn ystod y digwyddiad
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2020