Mudiad Meithrin: 'Angen buddsoddi i sicrhau'r miliwn'

  • Cyhoeddwyd
Plant meithrin
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cylch Ysgol Bro Alun yng Ngwersyllt, Wrecsam, ymhlith y cyntaf i weithredu cynllun trochi Croesi'r Bont

Wrth i'r Mudiad Meithrin ehangu cynllun i drochi plant yn y Gymraeg, mae eu prif weithredwr yn rhybuddio na allan nhw wireddu'r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg ar eu pennau'u hunain.

Mae Gwenllian Lansdown Davies yn dweud bod angen "parhau i fuddsoddi" mewn gwella sgiliau staff os am gyflawni strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

Yn ôl y llywodraeth maen nhw wedi rhoi £3m i'r mudiad eleni i ehangu eu darpariaeth.

Cafodd cynllun trochi Croesi'r Bont ei ddatblygu yn y gogledd-ddwyrain ac mae bellach yn weithredol ar draws Cymru.

Mae'n ceisio gosod fframwaith i sicrhau bod gofalwyr yn y cylchoedd ac athrawon cynradd yn defnyddio'r un patrymau iaith, fel bod y plant yn dysgu'n gynt.

150 cylch ychwanegol

Roedd y cylch yn Ysgol Bro Alun yng Ngwersyllt, Wrecsam, ymhlith y cyntaf i'w arddel. Mae'n gylch lle mae 95% o'r plant yn dod o gartrefi di-Gymraeg.

"Os ydy'r rhieni yn ffeindio bod eu plant nhw ddim yn ymdopi efo'r Gymraeg, maen nhw'n mynd â nhw i ysgolion Saesneg yn y gymuned," meddai Elin Williams, arweinydd y cylch.

"Ond efo Croesi'r Bont 'dan ni'n ffeindio bod y rhieni'n synnu eu bod nhw wedi dysgu gymaint yn y flwyddyn yn y cylch efo ni."

Mae gan Croesi'r Bont swyddogion penodol ac maen nhw'n ymweld â'r cylchoedd i fesur cynnydd y plant.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Elin Williams, mae rhieni yn rhyfeddu at faint o Gymraeg y mae'r plant yn ei siarad wedi blwyddyn

Mae'r prosiect hefyd yn helpu aelodau o staff i ddysgu neu ailgydio yn y Gymraeg.

Mae cynyddu nifer y staff sy'n medru defnyddio'r iaith yn y sector blynyddoedd cynnar yn hanfodol, yn ôl prif weithredwr Mudiad Meithrin.

"Mae'n her ddeublyg, achos mae'n rhaid i staff sy'n gweithio mewn darpariaeth cylch meithrin gael y cymwysterau gofynnol ond hefyd gael sgiliau iaith," meddai Gwenllian Lansdown Davies.

"'Dan ni i gyd ar gontinwwm ieithyddol ac mae'n rhaid i ni fuddsoddi mewn sgiliau staff i gynyddu hyder yn y Gymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenllian Lansdown Davies, prif weithredwr Mudiad Meithrin, yn rhybuddio "na allan nhw wireddu'r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg ar eu pennau'u hunain"

Mae'r Mudiad wedi cael arian i agor 150 o gylchoedd ychwanegol erbyn 2027 o dan strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, sy'n anelu am filiwn o siaradwyr erbyn canol y ganrif.

Wrth gael ei holi am ymarferoldeb staffio'r cylchoedd hynny, dywedodd Ms Davies: "Gyda buddsoddiad, gyda chynllunio bwriadus, gofalus ar y cyd ag awdurdodau lleol, colegau addysg bellach, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ag ati, mae'n berffaith bosib.

"Wneith o ddim digwydd heb fuddsoddiad yn ein cynllun hyfforddi cenedlaethol ni, nac yn wir yng ngallu'r sector addysg bellach ehangach i fod yn darparu'r cymwysterau hynny."

'Blynyddoedd cynnar yn hollbwysig'

Pan ofynnwyd iddi a ydy'r Mudiad yn ysgwyddo gormod o'r pwysau o ran gwireddu'r strategaeth, dywedodd: "Fuaswn i ddim yn dweud bod 'na ormod, ond mae 'na berygl i rywrai feddwl mai dim ond gweithgarwch Mudiad Meithrin sy'n mynd i wireddu'r targed, ac yn sicr all hynny ddim bod."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn hollbwysig er mwyn gwireddu ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Rydyn ni'n buddsoddi dros £3 miliwn yng ngwaith Mudiad Meithrin eleni i alluogi mwy o blant i elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg."