Dedfrydu dyn o Sir Gâr, oedd ar gyfres realiti S4C, am ymosod ar gyn-bartner

- Cyhoeddwyd
Mae dyn ifanc fu'n rhan o gyfres deledu ar S4C wedi ei ddedfrydu am ymosod ar ddynes yng Nghaerfyrddin.
Cafwyd Gilbert Roberts, 19, o Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin, yn euog o gyhuddiadau o ymosod mewn cysylltiad â dau ddigwyddiad yng Nghaerfyrddin yn Rhagfyr 2024 ac Ionawr eleni.
Cafwyd yn euog o ymosod ar Jaylee Green trwy guro mewn tractor, ac ymosod gan achosi niwed corfforol gwirioneddol mewn digwyddiad ar wahân.
Roedd Roberts yn rhan o'r gyfres realiti diweddar, Ma'i Off 'Ma, gan gwmni cynhyrchu Carlam ar gyfer S4C.
Cyfres oedd yn dilyn tair cenhedlaeth o deulu fferm Penparc, Sir Gaerfyrddin "sy'n byw a bod y byd amaeth".
Yn Llys Ynadon Llanelli cafodd Roberts ddedfryd 12 mis wedi ei ohirio am 24 mis. Doedd gwaith di-dâl ddim yn ofynnol.
Roedd Roberts wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
'Gafael yn ei gwddf'
Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu ddydd Mercher dywedodd yr erlynydd fod Gilbert Roberts a Jaylee Green yn gyn-bartneriaid, a bod y ddau ddigwyddiad yn ymwneud â dadlau rhwng y ddau.
Dywedodd wrth y llys fod yr achos cyntaf ar 5 Rhagfyr 2024 wedi digwydd mewn tractor, lle wnaeth Roberts afael yn Ms Green wrth ei gwddf, a'i thynnu tuag ato.
Cafodd yr anafiadau ar ei gwddf eu dangos ar sgrin yn y llys.
Disgrifiodd yr erlynydd yr ail ymosodiad yn Ionawr 2025 lle'r oedd Roberts wedi bwrw wyneb ei bartner gyda'i ben, a hynny mewn tractor.
Fe welodd y llys fideo a ffilmiodd Ms Green ar ôl y digwyddiad oedd yn dangos yr effaith arni, ac yn dangos gwaed ar ei hwyneb.
Roedd llais Roberts i'w glywed ar y fideo yn dweud: "That's what you wanted."
Clywodd y llys bod gan Ms Green graith ar ei hwyneb yn dilyn y digwyddiad.
Cafodd datganiad effaith dioddefwr ei ddarllen ar ei rhan, a ddywedodd bod y digwyddiad wedi ei rhoi "dan straen" a'i gwneud "yn bryderus".
"Rwy'n ofni Gilbert a'i deulu hyd yn oed yn fwy, gan fy mod i nawr yn teimlo y byddan nhw'n ei ddal yn fy erbyn."
Dywedodd fod ei thrwyn wedi torri o ganlyniad i'r ymosodiad, a'i bod wedi gorfod ei ailosod.
Disgrifiodd ei hofn o ddod ar draws Roberts a'r ffordd yr oedd yn rhaid iddi gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith. Gofynnodd am orchymyn atal.
'Deall difrifoldeb y mater'
Ar ran y diffynnydd, dywedodd Aled Owen nad oedd Gilbert Roberts yn cytuno gyda "beth sydd wedi digwydd o ran y ffeithiau", ond ei fod "yn derbyn bod e wedi cael prawf teg".
Dywedodd fod Roberts "wedi deall difrifoldeb y mater", nad oedd y ddau yn cymysgu bellach a bod Roberts yn ôl yn gweithio ar y fferm ac yn "falch i fod yna".
Cafodd Roberts ddedfryd 12 mis wedi ei gohirio am 24 mis, ac fe gafodd orchymyn cyfyngu ei osod am 24 mis.
Cafodd Roberts orchymyn i dalu £1,000 mewn ffi iawndal a £837 mewn ffioedd llys eraill.
Ni fydd S4C yn gwneud sylw ar y mater.