Babi wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A55 ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
A55Ffynhonnell y llun, Richard Evans
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r bachgen yn fuan ar ôl cael ei gludo o safle'r gwrthdrawiad gan y gwasanaethau brys

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod babi 21 mis oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A55 yn Ynys Môn brynhawn Sul.

Bu farw'r bachgen bach yn fuan ar ôl cael ei gludo o safle'r gwrthdrawiad, rhwng lori a char Ford Mondeo, ger Gwalchmai.

Mae dynes, sy'n cael ei disgrifio fel teithiwr sedd flaen, wedi cael anafiadau all beryglu ei bywyd.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor cyn cael ei symud i ysbyty yn Stoke ble mae mewn cyflwr "difrifol iawn".

Yn ôl yr heddlu, ni chafodd y dyn oedd yn gyrru ei anafu.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 14:06.

Roedd y ffordd ar gau wrth i'r heddlu ymchwilio i'r amgylchiadau cyn ei hailagor ychydig cyn 21:00 nos Sul.

Dywedodd yr Arolygydd Gareth Jones o Uned Plismona'r Ffyrdd fod yr heddlu'n "cydymdeimlo o'r galon â theulu'r bachgen bach yma ar gyfnod eithriadol o anodd".

"Rydym yn apelio ar unrhyw un allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu a welodd un o'r ddau gerbyd ychydig cyn 14:00 i gysylltu â ni."