Cyfieithu map system tiwb Llundain
- Cyhoeddwyd

Mae map gwasanaeth tiwb Llundain yn ddarlun cyfarwydd i bawb. Ond wythnos diwethaf roedd yna rhywbeth yn wahanol am un fersiwn ohono… roedd enwau'r gorsafoedd i gyd yn Gymraeg.
Cafodd y map enwog ei ddylunio gan Henry Charles Beck yn 1931, ac mae'n cael ei ddefnyddio gan Transport for London hyd heddiw.
Dysgwr Cymraeg o Birmingham, David Smith, oedd yn gyfrifol am y cyfieithiad gyda help rhai o'i ffrindiau rhugl.
Ond pam gwneud hyn?
Mae'n debyg fod y stori'n dechrau yn ôl yn 2015 pan oedd David yn treulio ei hafau yn gweithio ar wasanaeth Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri.
"Tra roeddwn i yno, fe ddes i i 'nabod pobl leol oedd yn siarad Cymraeg fel mamiaith," meddai David, "ac yn aml iawn roedd teithwyr ar y trên yn siarad Cymraeg efo fi. Ro'n i'n teimlo'n ddrwg fod pobl yn gorfod newid iaith i siarad efo fi. Felly dechreuais i ddysgu Cymraeg.
"Tipyn o hwyl"
"Ym mis Rhagfyr roeddwn i a chriw o ffrindiau o'r rheilffordd yn Llundain am benwythnos. Un noson, roedden ni ar y tiwb ar y ffordd adref o'r dafarn a dechreuon ni chwarae gyda'r enwau ar y mapiau oedd uwchben y seddi, er enghraifft 'Ewston' a 'Bricston'. Tipyn o hwyl.

David (ail o'r chwith) gyda'i ffrindiau sydd wedi'i helpu i gyfieithu'r map
"Nes i ddim meddwl am y peth wedyn tan mis Ionawr pan oedd gen i rhyw ddeuddydd i ffwrdd o'r gwaith a dim cynlluniau. Roedd y tywydd yn wael felly er mwyn ymarfer fy Nghymraeg es i ati i geisio gwneud cyfieithiad cyflawn o'r map.
"Nes i ei anfon at fy ffrindiau a roedden nhw'n ei hoffi. Dywedodd un o fy ffrindiau wrtha' i ei rannu ymhellach a dyma ni…"

Enwau dieithr
I greu'r map, aeth David ar drywydd etymoleg rhai o'r enwau a dyna efallai pam fod rhai o'r enwau'n swnio mor ddieithr i ni. Mae David hefyd yn pwysleisio ei fod o'n dal i ddysgu ac mae'n croesawu cywiriadau ac awgrymiadau eraill i'w fap.
Dyma rai o'r enwau diddorol sydd i'w gweld ar y map:
Bethnal Green = Maes Tro Hapus
Mae'n debyg fod yr enw Anglo-Sacsonaidd yn golygu 'cornel hapus' ac felly cyfunodd David y tri gair i greu'r enw yma.
Chalk Farm = Hafod Bwthyn Oer
Ffurf sydd wedi newid o Cold Cottage Farm gyda threigl amser i Chalk Farm yw'r orsaf hon ar linell Northern.

Waterloo = Coed Gwlyb
Mae hon yn un o orsafoedd enwocaf Llundain, ond o le ddaw fersiwn Gymraeg David o'r enw?
Yn syml, meddai, mae wedi'i hewni ar ôl y frwydr yng Ngwlad Belg. Mae etymoleg yn dangos mai gwreiddiau Iseldiraidd sydd i'r gair water ac yn y cyd-destun hwn fe fyddai'r bobl leol wedi ei ddeall i olygu gwlyb yn hytrach na dŵr.
Daw ail elfen y gair o Ladin, mwy na thebyg, sy'n golygu coedwig neu lannerch.
Holborn = Nantgwag
Mae hwn eto'n enghraifft o dreigl amser yn newid gair. Mae etymolegwyr yn credu mai o hollow bourne neu hollow brook y daw Holborn sy'n egluro dewis David o alw'r orsaf hon yn Nantgwag.

Hefyd o ddiddordeb: