Ceisio denu doctoriaid i adran frys Ysbyty Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Brenhinol MorgannwgFfynhonnell y llun, Google

Mae penaethiaid iechyd wedi bod yn ceisio recriwtio mwy o feddygon mewn ymgais i osgoi cau adran frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

Maen nhw hefyd yn ceisio gwneud gwell ddefnydd o'r staff sy'n gweithio yn yr adran.

Mae mwy o fanylion wedi dod i'r amlwg ynglŷn â dyfodol yr adran cyn cyfarfod rhwng aelodau'r bwrdd yr wythnos nesaf.

Ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn ystyried cau'r adran frys yn llwyr neu dros nos.

Mewn papurau gafodd eu cyhoeddi ddydd Gwener mae'r bwrdd iechyd hefyd yn dweud ei fod yn arbrofi gyda'r syniad o geisio cadw ymgynghorwyr meddygol yn yr adran a'u cael nhw i arwain y gofal 24 awr.

Yn y gorffennol mae'r bwrdd iechyd wedi dweud bod prinder doctoriaid yn golygu bod angen "gweithredu ar frys" er mwyn lleihau'r risg i ddiogelwch claf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna brotestiadau wedi eu cynnal ynglŷn â'r posibilrwydd o gau'r adran frys

Cafodd penderfyniad ei wneud yn 2015 i ganoli gofal brys mewn llai o ysbytai, ond does dim wedi digwydd ers hynny.

Yn gynharach y mis yma fe brotestiodd tua 400 o bobl tu allan i'r Senedd yn erbyn cau'r adran frys.

Mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn comisiynu asiantaethau recriwtio, defnyddio cyfryngau cymdeithasol i atgyfnerthu ymgyrchoedd recriwtio ac yn rhoi hysbysebion swyddi yng nghylchgrawn y British Medical Journal er mwyn ceisio denu mwy o feddygon i'r ysbytai.

Beth yw'r broblem?

Mae lefelau staffio ym mhob adran frys yn ysbytai Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg llawer yn is na rhai eraill ar draws Prydain.

Fe waethygodd y sefyllfa yn ysbyty Brenhinol Morgannwg yn ddiweddar ar ôl i'r unig ymgynghorydd llawn amser sydd yn gweithio yn yr adran frys ymddiswyddo.

Mae'r bwrdd iechyd yn dweud bod ymddeoliad yr ymgynghorydd, ynghyd â phrinder meddygon gradd ganol, yn golygu nad oedd modd cynnal gwasanaeth brys ar y tri safle "yn bellach na'r dyfodol agos".