Ffonau symudol yn achosi stopio opera yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
![Carlo Rizzi](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3F7A/production/_111005261_gettyimages-550238561.jpg)
Fe wnaeth yr arweinydd o'r Eidal, Carlo Rizzi, ddysgu Cymraeg yn ystod ei waith fel cyfarwyddwr cerdd Opera Cenedlaethol Cymru rhwng 1992 a 2001
Fe wnaeth arweinydd opera yng Nghaerdydd, nos Sadwrn, stopio'r perfformiad ddwywaith wedi i ffonau symudol ganu ymhlith y gynulleidfa.
Roedd Carlo Rizzi yn arwain cynhyrchiad newydd Opera Cenedlaethol Cymru o Les Vêpres Sicilienes gan Verdi yn Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm.
Dywedodd aelodau o'r gynulleidfa bod Rizzi wedi stopio'r perfformiad ddwywaith a'i fod wedi dweud wrthynt cymaint oedd sŵn y ffonau yn amharu ar y perfformiad.
Mae opera Verdi wedi'i seilio ar ddigwyddiadau yn Sicily yn 1282.
'Anghyffredin'
Roedd y gantores Sian Meinir yn perfformio yn yr opera ac wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd: "Roeddwn i yng nghefn llwyfan ar y pryd ac roedd yna gryn gyffro wedi i'r perfformiad gael ei stopio ddwywaith.
"Mae'n rhywbeth anghyffredin iawn, ond roedd y perfformwyr a'r gynulleidfa yn cefnogi'r arweinydd - mae o'n arweinydd uchel iawn ei barch. Mae o'n gorfod canolbwyntio ar gymaint o bethau gwahanol ac fe wnaeth y gynulleidfa gymeradwyo ei benderfyniad i stopio'r perfformiad."
![Canolfan y Mileniwm](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/102CA/production/_111005266_anglepeninsula2.jpg)
Roedd yr opera yn cael ei pherfformio yng Nghanolfan y Mileniwm
Mae'r opera sy'n cael ei chanu gan Opera Cenedlaethol Cymru yn cael ei chyfarwyddo gan Syr David Pountney.
Nid dyma'r tro cyntaf i ffonau symudol achosi cynnwrf mewn perfformiad byw.
Yn 2013 fe wnaeth y pianydd Krystian Zimerman adael cyngerdd yn yr Almaen am fod rhywun yn ffilmio ei berfformiad ar ffôn clyfar.
Y llynedd dywedodd y gantores Madonna y byddai hi'n gwhardd ffonau symudol o'i gigs yn y dyfodol.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cadarnhau bod "seibiannau byr" wedi digwydd yn ystod perfformiad nos Sadwrn a bod Rizzi wedi siarad â'r gynulleidfa wedi i ffôn symudol ganu yr eildro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2016