Llanc wedi marw mewn ymosodiad 'chwim a gwaedlyd'

  • Cyhoeddwyd
Harry BakerFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Harry Baker ei ddarganfod wrth i weithwyr y dociau gyrraedd ar ddechrau shifft

Mae'r achos wedi dechrau yn Llys Y Goron Caerdydd yn erbyn saith dyn a bachgen sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio bachgen 17 oed ym Mro Morgannwg.

Cafodd corff Harry Baker, o Dredelerch yng Nghaerdydd, ei ddarganfod yn ardal dociau'r Barri fis Awst y llynedd.

Yn ôl yr erlyniad, fe gafodd "ei dargedu'n fwriadol, ei erlid yn ddidostur a'i ladd mewn ymosodiad didrugaredd, chwim a gwaedlyd" yn dilyn ffrae dros werthu cyffuriau.

Mae'r diffynyddion yn gwadu llofruddio, ond mae un o'r diffynyddion, Leon Clifford, 22, wedi pledio'n euog i ddynladdiad.

Y diffynyddion eraill yw:

  • Nathan Delafontaine, 32;

  • Raymond Thompson, 47;

  • Lewis Evans, 61;

  • Leon Symons, 22;

  • Ryan Palmer, 33,

  • Peter McCarthy,36;

  • bachgen 16 sydd ddim yn cael ei enwi am resymau cyfreithiol.

Clywodd y llys bod Harry Baker wedi ei ddarganfod yn farw ychydig cyn 06:00 ddydd Mercher, 28 Awst.

Roedd wedi ei drywanu sawl tro ac roedd dillad wedi eu tynnu oddi arno.

Cornelu

Dywedodd Paul Lewis QC ar ran yr erlyniad bod "Harry a'i gyfaill wedi rhedeg i ffwrdd o'r ymosodwyr am filltir".

Llwyddodd ei gyfaill i ddringo dros ffens ond cafodd Harry ei gornelu mewn ardal gaeëdig o'r dociau.

Cafodd y gwrthdaro cychwynnol a'r helfa eu dal yn rhannol ar luniau CCTV, ond doedd dim camerâu yn y fan ble bu farw'r llanc wedi ymosodiad byr.

Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion heddlu yn ardal Ffordd Wimborne, Y Barri ble cafodd Harry Baker ei ddarganfod yn farw

Dywedodd Mr Lewis QC: "Beth oedd y cymhelliad? Mewn gair: cyffuriau."

"Doedd Harry Baker ddim o'r Barri ond roedd wedi dechrau gwerthu cyffuriau caled yn y dref.

"Fe wnaeth hynny ddigio'r diffynyddion... roedd e naill ai wedi eu twyllo neu wedi dwyn busnes oddi arnyn nhw trwy werthu cyffuriau yn eu hardal nhw."

Ychwanegodd bod "rhai o'r rheiny yn y doc wedi chwarae rhannau gwahanol i'w gilydd yn yr hyn ddigwyddodd y noson honno".

Mae'r wyth diffynnydd yn gwadu llofruddiaeth ar y cyd, mae chwech yn gwadu cyhuddiad pellach o anhrefn dreisgar ac mae Mr Evans yn gwadu rhoi cymorth i droseddwr.

Mae'r achos, a fydd yn para hyd at chwe wythnos, yn parhau.