100,000 yn tanysgrifio i wasanaeth S4C Clic dros chwe mis
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi cyhoeddi fod 100,000 o bobl wedi tanysgrifio i wylio eu gwasanaeth ar alw mewn ychydig dros chwe mis.
Yn flaenorol roedd S4C Clic ar gael heb yr angen am greu cyfrif personol, ond bellach mae angen i wylwyr danysgrifio i dderbyn y gwasanaeth.
Dywed S4C fod datblygu gwasanaeth tanysgrifio wedi galluogi'r sianel i gyfathrebu "un wrth un â gwylwyr ac fel canlyniad, dod i ddeall anghenion gwylwyr yn well".
Mae tanysgrifwyr yn gallu mwynhau "cynnwys ecscliwsif" gan gynnwys "bocs sets, dramâu a chynnwys penodol i ddysgwyr, plant a phobl ifanc", medd y sianel.
'Syndod mawr'
Dywedodd Prif Weithredwr S4C Owen Evans: "Mae hyn i gyd yn rhan o'n gwaith i bersonoleiddio ac ehangu ein gwasanaeth.
"Dwi eisiau ein bod ni fel sianel yn gallu cysylltu un wrth un gydag ein cynulleidfa ac ein bod ni'n eu deall a'u galluogi nhw i wylio yn gwmws beth maen nhw eisiau."
Cafodd y cynllun tanysgrifio ei lansio yn ystod Eisteddfod yr Urdd y llynedd, ac mae Mr Evans wedi synnu ar ba mor gyflym mae Clic wedi cyrraedd y garreg filltir.
"Rydym yn falch iawn bod cymaint o wylwyr S4C wedi tanysgrifio i'r gwasanaeth Clic ac mae'r ffaith ein bod ni wedi cyrraedd 100,000 o wylwyr mewn cyfnod mor fyr yn syndod mawr i ni - ond yn newyddion da iawn.
"Mae'r niferoedd yn dangos bod S4C Clic yn lle mae pobl eisiau mynd i wylio rhaglenni a chyfresi S4C."
Yn ôl Mr Evans, mae datblygu Clic yn rhan annatod o strategaeth ddigidol y sianel.
"Fe fyddwn yn parhau i ddatblygu Clic ar gyfer y dyfodol a chynnig gwasanaeth heb ei hail i'n gwylwyr traddodiadol yn ogystal â gwylwyr newydd i'r sianel," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd22 Medi 2019