Bangor i Beijing: Sut beth yw teithio 10,000 o filltiroedd ar drên?
- Cyhoeddwyd
Yn ystod hydref 2019 aeth Gwyn Llewelyn, o Gwm-y-glo, ar daith hir i China... ar drên!
Roedd eisiau gweld os oedd hi'n bosib defnyddio llai o awyrennau, a mwy o ffyrdd eco-gyfeillgar o deithio. Ond oedd hi werth yr holl oriau o deithio? Dywedodd ei hanes wrth Cymru Fyw.
Roeddwn i wedi bod eisiau dychwelyd i China ers i mi fynd yno am y tro cyntaf yn 2008, ond y tro hwn dros y tir ar reilffordd y Trans-Siberia.
Gyda'r ddynol ryw yn prysur niweidio hinsawdd y blaned yn barhaol, a nifer cynyddol o bobl yn ymwrthod â hedfan o blaid dulliau mwy gwyrdd o deithio, roedd hi'n amser perffaith i mi groesi'r her yma oddi ar fy rhestr fwced.
Yn ôl ffigyrau Asiantaeth yr Amgylchedd Ewropeaidd (EEA), mae allyriadau carbon o hedfan ddeg gwaith yn uwch na theithio ar drên. Roeddwn yn awyddus i weld pa mor ymarferol ydy hi i deithio'n bell heb gael fy hyrddio i uchder o 35,000 troedfedd.
Felly yn ogystal â thaith bell i weld ffrind, roedd hyn yn arbrawf i weld a fyddai modd cyfnewid taith awyren hir am daith (hirach fyth!) ar drên.
Bangor i Beijing...
Ar ôl gadael Bangor tua Llundain, yna dal yr Eurostar i Frwsel, fy arosfannau cyntaf oedd Cologne, yn yr Almaen, ac yna Berlin. Wedyn trên nos i Kiev yn yr Wcráin, ble yr arhosais er mwyn ymweld â dinistr gorsaf bŵer Chernobyl.
Trên nos arall yn ddiweddarach; roeddwn ym Moscow.
Wedi pedwar diwrnod o grwydro strydoedd Moscow, dyma gychwyn ar brif ddarn y daith, sef rheilffordd Trans-Siberia.
Roedd balchder y Rwsiaid yn eu trên enwog yn amlwg i'w weld, a phawb yn barchus o eraill o'u cwmpas. Roedd yn awyrgylch cyfeillgar ar y trên, a phawb yn sgwrsio â'i gilydd mor rhwydd nes rhoi'r argraff bod pawb yn hen gyfeillion.
Yn y trydydd dosbarth roedd y gwelyau yn lân a threfnus, er yn fyr ac yn gul: doedd wirioneddol ddim angen talu am ddosbarth uwch.
Doedd Saesneg y cyd-deithwyr lleol ddim gwell na fy Rwsieg innau, ac roedd sgwrsio drwy Google Translate yn her, yn enwedig gan fod angen newid bysellfwrdd y ffôn rhwng un Prydeinig ac un Syrilig bob yn ail.
Er hynny, llwyddais sgwrsio gydag ambell un am nifer o bynciau megis Ifan yr Ofnadwy, y rhyfel yn Syria, ac annibyniaeth i Gymru. A hyn i gyd cyn hyd yn oed cyrraedd Siberia!
Taith o 54 awr
Ar ôl gorffwys yn Yekaterinburg am gwpwl o ddyddiau, dyma gamu yn ôl ar y trên ar gyfer cymal hiraf y daith i gyd: 54 awr i Irkutsk.
Arhosais yn yr ardal honno am ychydig ddyddiau er mwyn glanio ar lannau'r Baikal, sef llyn mwya'r byd o ran cyfaint. Yma ceir 23% o ddŵr crai'r byd - mwy na Llynnoedd Mawr America wedi eu cyfuno.
Mae Siberia yn enfawr. Llethol o enfawr. Pe byddai Siberia yn wlad annibynnol o weddill Rwsia, byddai'n parhau i fod y wlad fwyaf yn y byd.
Ar ôl ail-ymuno â'r trên, croesais y ffin i Mongolia, ac roedd dyrchafiad clir yn ysblander y golygfeydd drwy ffenestr y trên.
Ildiais i'r temtasiwn i ddod oddi ar y trên yn Ulannbaatar ac yna teithio am wythnos drwy gefn gwlad diffrwyth Mongolia yn aros gyda theuluoedd nomadaidd y wlad.
Roedd y Mongoliaid yn bobl gynnes iawn, eu ffordd nomadaidd o fyw mor wahanol i wledydd y gorllewin, a'n moethbethau ninnau'n golygu dim iddynt y tu mewn i iwrt.
Er hyn, pan rwy'n teithio rwy'n sylwi pa mor debyg ydym ni fel pobl y byd, yn hytrach na pha mor wahanol. Doedd dim modd osgoi'r tebygrwydd, er mor wahanol oedd eu hamgylchedd.
Gwylio rygbi yn yr anialwch
Yn ôl yn Ulaanbaatar, dyma ddychwelyd ar y trên, a phasio drwy wastadeddau diddiwedd anialwch Mongolia. Yno llwyddais wylio gêm Cymru a Ffrainc yng Nghwpan Rygbi'r Byd ar sgrin fy ffôn symudol.
Anialwch y Gobi - dim byd ond oriau ac oriau o dir diffaith isdrofannol, anifeiliaid gwylltion, a signal 4G perffaith! Beth yw'r esgus yng Nghymru? Mymryn o fynyddoedd?
Diwrnod yn ddiweddarach, dyma gyrraedd Beijing, ac felly ddiwedd y Trans-Siberia.
Yma roedd Marek, hen gyfaill o Gymru fach sy'n byw yn China ers degawd a mwy, ac roeddwn yn falch o gael cwmni cyfarwydd am y tro cyntaf ers mis.
Ar ôl teithio gydag ef o amgylch China am bythefnos, roeddwn wedi cyrraedd Guangzhou yn ne'r wlad - diwedd y daith - ac wedi teithio 10,000 o filltiroedd ar drên.
Mewn ffordd hunanol ac amgylcheddol anghyfeillgar roeddwn yn edrych ymlaen at neidio ar yr awyren a chael dychwelyd adref mewn chwinciad - tua 21 awr, yn cynnwys y trên yn ôl i Fangor. Hynny o'i gymharu â'r gwerth 8½ diwrnod y bûm ar y trên er mwyn cyrraedd Guangzhou.
Felly, beth yw'r casgliad?
Mae'n rhaid i mi gyfaddef mai'r canlyniad y des i iddo yw nad ydyw'n ymarferol i'r rhan fwyaf o bobl i gyfnewid hediadau am deithiau hir ar y trên, er bod y safiad yn un cymeradwy.
Ar fy nhaith i, roedd y broses o deithio wedi dod yn rhan o'r gwyliau ei hun, yn hytrach na rhywbeth i'w ddioddef a'i gyflawni mor fuan â phosib. Dwi'n lwcus o fod wedi cael y cyfle i dreulio'r amser i wneud hyn, ond mae amser teithio gan amlaf yn brin.
Yn ogystal â'r amser, costiodd y teithiau trên £1,000 i'm cludo o Fangor i Guangzhou. Anodd yw cyfiawnhau'r gost yma pan roedd modd hedfan yn ôl i Lundain a chael trên ymlaen i Fangor am gyfanswm o £300.
Serch hynny, roeddwn wedi synnu pa mor hwylus a chyfforddus oedd teithio'n bell ar drên, a dwi'n sicr bod gan drenau ran fawr i'w chwarae mewn lleihau'r nifer o awyrennau sydd yn yr awyr.
Cyfrifoldeb ar y cyhoedd
Gall holl wledydd y bydd ddysgu gan China yn y modd yma, gyda'u rhwydwaith o drenau cyflym.
Mae teithiau trên yn cymryd teirgwaith llai o amser nag yr oedden nhw ychydig flynyddoedd yn ôl, ac mae'r wlad yn meddu ar rwydwaith fwy o drenau cyflym na holl wledydd eraill y byd gyda'i gilydd.
Fel man cychwyn, dylai llywodraethau ledled y byd gychwyn trethu hediadau byrion yn drwm, yn enwedig rhai oddi fewn yr un wlad, ac yna defnyddio'r refeniw ychwanegol er mwyn gwneud y trenau yn rhatach a chyflymach.
Ond fel popeth arall, gwnaiff newid gwleidyddol o'r fath fyth ddigwydd oni bai bod galw amdano, felly arna ni'r cyhoedd y mae'r cyfrifoldeb i orfodi'r newid hwn.
Hefyd o ddiddordeb: