Plaid Cymru yn dod â gwaharddiad aelod i ben
- Cyhoeddwyd
Mae un o ymgyrchwyr Plaid Cymru gafodd ei gwahardd o'r blaid y llynedd dros honiadau o wrth-semitiaeth wedi ailymuno fel aelod o'r blaid.
Ym mis Tachwedd dywedodd Sahar Al-Faifi ei bod yn difaru ysgrifennu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, oedd wedi eu dileu pum mlynedd yn ôl.
Mewn datganiad fe ddywedodd fod panel y blaid wedi dod i'r casgliad "nad oedd angen gosod sancsiynau" yn ei herbyn.
Mewn neges ar ei chyfrif Twitter, dywedodd: "Rwyf wedi fy ymrwymo mwy nag erioed i greu Cymru fwy cyfiawn, cynhwysol a chroesawgar."
Fe gadarnhaodd Plaid Cymru fod Ms Al-Faifi, oedd wedi cymryd rhan mewn darllediad etholiadol y blaid y llynedd, yn aelod unwaith eto.
Nid oedd y blaid am wneud sylw pellach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2019