O fyw ar y stryd i ddiffodd tanau
- Cyhoeddwyd
Dr Sabrina Cohen-Hatton yw un o brif ddiffoddwyr tân benywaidd y Deyrnas Unedig, ond pan oedd hi'n 15 oed, roedd hi'n ddigartref ac yn cysgu ar strydoedd Casnewydd.
Mae hi wedi siarad â Cymru Fyw ynglŷn â sut aeth ati i drawsnewid ei bywyd, a sut mae ei chefndir wedi ei siapio a'i hannog i ddilyn ei breuddwydion.
Newidiodd bywyd Sabrina yn gyfangwbl ar ôl i'w thad hi farw pan oedd hi'n naw oed. Cyn hynny, roedd ei theulu yn un 'arferol', meddai, ond yn dilyn marwolaeth ei thad, dechreuodd ei mam ddioddef yn ofnadwy â'i iechyd meddwl.
"Mae gweld rhywun rwyt ti fod i ddibynnu arni yn dirywio mor anodd. Doedd gen i ddim rhwydwaith o gefnogaeth.
"Dechreuodd y sefyllfa droi'n un tanllyd, felly erbyn o'n i'n 15, roedd rhaid i mi adael."
Dechreuodd gysgu ar y stryd yng Nghasnewydd. Yn ystod y dydd, byddai hi'n mynd i'r ysgol, a gyda'r nosau, byddai hi'n dychwelyd i ble bynnag yr oedd hi wedi dod o hyd iddo - cynteddau hen eglwysi, drysau siopau, adeiladau gwag - rhywle a fyddai'n rhoi cysgod iddi am y noson.
'Profiadau erchyll'
Aeth hi drwy brofiadau erchyll pan oedd hi'n byw yn ddigartref, meddai.
"Ro'n i'n byw mewn hen adeilad gyda chriw o bobl eraill, ac roedd un dyn yno oedd yn skinhead. Ro'n i'n cuddio fy llyfrau ysgol er mwyn gwneud yn siŵr ei fod e ddim yn gweld fy nghyfenw Iddewig, Cohen. Ond un noson, daeth o hyd iddyn nhw..."
Ymosododd y dyn arni, gan ei llosgi â sigarét, a'i churo'n ddifrifol. Roedd rhaid iddi geisio dod o hyd i rywle arall i fyw ar ôl hynny.
Roedd dod o hyd i gefnogaeth yn anodd, meddai. Ceisiodd wneud cais am fudd-daliadau, ond doedd hi ddim yn gallu eu derbyn tan oedd hi'n 18 oed.
Dechreuodd werthu cylchgrawn The Big Issue.
"Roedd yn help mawr. Ro'n i'n gallu prynu copi am 50c a'i werthu am £1. 'Nes i weld fod yna lawer yn ei werthu yng Nghasnewydd, felly byddwn i'n mynd i Drefynwy ar y bws bob dydd, ac yn aros yno tan o'n i wedi gwerthu pob copi."
'Eu diwrnod gwaethaf un'
Pan oedd hi'n 18 oed, penderfynodd ei bod eisiau gweithio i'r gwasanaeth tân - dewis annisgwyl i rywun nad oedd yn ymddiried mewn awdurdod rhyw lawer.
"O'n i eisiau ei 'neud e achos mod i'n gallu uniaethau â phobl sydd yn mynd drwy brofiadau ofnadwy.
"Pan 'dyn ni'n cael ein galw mas, rydyn ni'n aml yn mynd at bobl ar eu diwrnod gwaethaf un, a dwi wedi cael rhai o fy mhrofiadau gwaethaf i; colli rhiant, gweld rhiant arall yn dioddef â'i iechyd meddwl, digartrefedd.
"Felly hyd yn oed os alla i ddim gwneud eu sefyllfa nhw yn well, o leia' alla i ei stopio rhag mynd yn waeth - dwyt ti byth ddim yn helpu."
Pan soniodd wrth bobl am ei bwriad gyntaf, chwerthin oedd ymateb nifer, gan ddweud na fyddai byth yn llwyddo.
"Dyna beth wthiodd fi," meddai Sabrina. "Gwnaeth e i mi fod eisiau ei wneud hyd yn oed mwy. Roedd e fel pan ti'n yr ysgol a rhywun yn dy dare-io ti i wneud rhywbeth... mae'n rhaid i ti ei 'neud e!"
Doedd ei llwybr i gael swydd gyda'r frigâd dân ddim yn hawdd. Ymgeisiodd â 31 gorsaf wahanol cyn cael ei swydd llawn amser gyntaf. Ond mae hi'n ddiolchgar iawn am y cyfle gafodd, meddai.
"Pan 'nes i ymuno â'r gwasanaeth tân, gwelson nhw heibio beth oedd, ar bapur, ddim yn ymddangos fel llawer. Derbynion nhw fi ar sail pwy oedden nhw'n credu y gallen i fod.
"Ro'n i wastad wedi poeni fyddai pobl yn meddwl y bydden i byth yn llwyddo, yn enwedig ar ôl cael fy anwybyddu a fy meirniadu gymaint pan o'n i ar y strydoedd."
Hi oedd y seithfed menyw i ymuno â'r orsaf dân, oedd â 1,700 o ddynion - ac, ar y cyfan, meddai, mae hi wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan ei chyd-weithwyr.
Fel mae Sabrina wedi ei brofi, mae angen nifer o wahanol fathau o bobl i fod yn ddiffoddwyr tân "dim jest dynion mawr cryf."
"Mae angen pobl sydd yn dda o dan bwysau, sydd yn medru datrys problemau. Efallai mai nid fi fydd yn torri'r drws i lawr, ond fi fydd yn gallu ffitio drwy'r twll wedyn."
Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae hi wedi codi drwy'r rhengoedd a nawr yn gweithio fel Prif Swyddog Tân.
Gwneud penderfyniadau gwell
Ond mae ochr arall i'w gwaith, a ddechreuodd pan aeth ar alwad ychydig o flynyddoedd yn ôl. Roedd un o'r diffoddwyr tân eraill wedi ei anafu'n ddrwg mewn ffrwydrad, ac roedd Sabrina'n credu mai ei gŵr, Mike, oedd o.
Fel mae'n digwydd, nid Mike oedd wedi brifo, ond fe gododd y ddamwain nifer o gwestiynau ym meddwl Sabrina ynglŷn â sut mae gweithwyr argyfwng yn ymdopi mewn sefyllfaoedd gwahanol.
"Roedd fy rôl o rywun oedd yn ymateb i argyfwng, a'r cyfrifoldeb ddaw gyda hynny, yn brwydro gyda fy rôl fel gwraig, a'r ofn roeddwn i'n ei deimlo. Ro'n i'n meddwl am hyn am fisoedd ar ôl y ddamwain, a dechreuais i edrych i mewn i'r peth.
"Dysgais fod 80% o ddamweiniau yn digwydd oherwydd camgymeriad dynol, felly meddyliais efallai fod modd ymchwilio i mewn i sut mae pobl yn gwneud penderfyniadau."
Felly er mai dim ond llond llaw o raddau TGAU gafodd hi yn yr ysgol, aeth ymlaen i wneud gradd seicoleg ac yna Doethuriaeth mewn niwrowyddoniaeth ymddygiadol. Mae hi bellach yn cynnal gwaith ymchwil i sut mae staff gwasanaethau brys yn gwneud penderfyniadau tyngedfennol mewn sefyllfaoedd o argyfwng.
Rhannu ei stori i helpu eraill
Mae bywyd Sabrina wedi newid yn aruthrol ers iddi fod yn ddigartref ar strydoedd Casnewydd, ac mae hi wedi ysgrifennu llyfr am ei bywyd, The Heat of the Moment, ble mae hi'n bod yn hollol agored am ei phrofiadau a phob agwedd o'i bywyd.
"O'n i eisiau cymryd popeth dwi wedi ei ddysgu o hynny a'i rannu â phobl. Do'n i bron ddim am sôn am fy sefyllfa yn byw ar y strydoedd yn y llyfr, ond fe wnes i er mwyn helpu eraill.
"Mae wedi fy ngalluogi i wneud gwaith ynglŷn â digartrefedd, a dwi wedi derbyn nifer o negeseuon mae pobl wedi eu hanfon ata i, yn diolch i mi am rannu fy stori."
Wrth gwrs, nid oes modd i Sabrina wybod sut fyddai ei bywyd hi wedi bod yn wahanol pe na bai hi wedi bod yn ddigartref, ond mae'n teimlo fod y profiad wedi siapio pwy ydi hi.
"Gymrodd hi dipyn o amser i gael lle parhaol i fyw yn y diwedd. Ro'n i'n ceisio symud i lety sefydlog, ond o'n i mewn sefyllfa mor fregus, ac yn poeni'n barhaus am lle fyddai gen i i fyw, os fyddai gen i rywle.
"Felly dwi'n credu fod hynny yn fy ngwthio i geisio diogelu beth sydd gen i nawr.
"Weithiau mae hynny'n beth da achos rwy'n ystyrlon wrth wneud pethau, ond mae hefyd yn gallu fy ngwneud i'n bryderus am bethau; fy mod i am brofi colled eto.
"Ond dwi'n meddwl fod wedi bod yn ddigartref yn golygu mod i nawr ddim ofn methu mewn pethau, achos dwi wedi profi methiant, dwi wedi profi cael dim byd. Os wyt ti'n dod o hynny, does yna ddim byd yn ymddangos mor ddrwg.
"Mae hefyd wedi fy ngwneud yn ymwybodol o beth all pobl ei gynnig. Profiad yw digartrefedd, nid dyna pwy yw'r person. Dwi eisiau i fwy o bobl weld hynny, fel efallai wedyn fydd siwrne pobl eraill o ddigartrefedd i gartref sefydlog a gwaith ddim mor anodd."
Hefyd o ddiddordeb: