Ateb y Galw: Yr archeolegydd Dr Iestyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Iestyn JonesFfynhonnell y llun, S4C

Yr archeolegydd, actor a'r cyflwynydd teledu Dr Iestyn Jones sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Morgan Hopkins yr wythnos diwethaf.

Mae Iestyn yn cyd-gyflwyno'r gyfres Cynefin ar S4C gyda Heledd Cynwal a Siôn Tomos Owen, lle maen nhw'n cael cyfle i grwydro Cymru, dysgu mwy am ardaloedd gwahanol o'r wlad a chyfarfod y trigolion.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Chwarae ar y traeth gyda Mam adeg yr haf yn Aberystwyth yn aros am Dad i ddod nôl o'r ysgol (athro oedd e).

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Fe wnes i roi siocledi Black Magic a cherdyn i Cerys. Fe ddychwelwyd y cerdyn...

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Meddwi yn ofnadwy yn y Neuadd Fawr, Aberystwyth, yn y chweched dosbarth a Dad yn gorfod dod â fi gartre' mewn stad ofnadwy. Yr un noswaith, galw Mam yn Phil.

O archif Ateb y Galw:

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Mae dagrau yn llifo yn eitha' aml ond crïo go iawn pan gollais fy mrawd yng nghyfraith mewn damwain car rhai blynydde yn ôl.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n byw yn y gorffennol rhan fwyaf o'r amser ac yn colli neu 'camleoli' gwrthrychau bob dydd, megis sbectol, allweddi, ac offer gwaith.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Wedi crwydro hyd a lled Cymru yn ffilmio Cynefin, mae yna nifer fawr o lefydd arbennig yn y wlad yma. Llefydd yn llawn hanes a phrydferthwch gwyllt, naturiol.

Os oes rhaid dewis, efallai ar ben bryn Cwm Magwr, uwchben Llanfihangel-y-creuddyn, wrth i'r haul fachlud dros Fae Ceredigion. Mae'n bosib gweld Eryri i'r dde a Sir Benfro i'r chwith. Mae edrych tua'r gorllewin yn gysur bob tro.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwy noson - 07/09/1996 (fy mhriodas) a 18/09/1997 (dathlu Senedd i Gymru).

Ffynhonnell y llun, Eiry Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iestyn yn briod â'r actores Eiry Thomas

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Penderfynol, daearol a direidus (fel mochyn daear).

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Llyfrau - Dewis anodd ond The Life of Thomas More gan Peter Ackroyd a Thomas Cromwell gan Tracy Borman. Dwi wrth fy modd yn darllen am gymeriadau a ddylanwadodd ar wleidyddiaeth yr ynysoedd yma yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Cyfnod cythryblus iawn a phenderfyniadau personol yn golygu bod eu bywydau yn y fantol.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Rhywun sy'n fyw neu ma' gormod o ddewis: y darlledwr a'r newyddiadurwr James O'Brien. Oherwydd mae ganddo'r gallu i fynegi yn glir iawn beth sydd o'i le ar fyd, a chywiro pobl ddwl mewn ffordd ddireidus.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Up Against the Wall gan Tom Robinson Band. Atgofion o Rock Against Racism ar ddiwedd y 70au/dechrau'r 80au. Yn anffodus heddiw mae angen yr un peth unwaith eto.

Ffynhonnell y llun, Ian Dickson
Disgrifiad o’r llun,

Tom Robinson Band yn perfformio yn 1977

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Fi oedd y dyn yn yr hysbysebion Milk Tray gwreiddiol...

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Llewygu.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Salad caws gafr, Paella llysieuol, Cheesecake mefus.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fy mab. Fel bo' fi'n deall rhywfaint o Ffiseg am ddiwrnod.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dr Iestyn Jones a Dr Katie Hemer ar safle archeolegol Capel San Padrig ger Tyddewi ar gyfer cyfres Cynefin

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Dr Katie Hemer

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw