Cwm Taf: Dim 'ymdrech sylweddol' i recriwtio staff

  • Cyhoeddwyd
Royal Glamorgan protest
Disgrifiad o’r llun,

Trigolion lleol yn protestio yn erbyn unrhyw fwriad i israddio'r uned frys yn Llantrisant

Mae cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi dweud y "gallai fod yn wir" nad oedd "ymdrech sylweddol" i recriwtio ymgynghorwyr adran frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg dros gyfnod o bum mlynedd.

Roedd Nick Lyons yn trafod sefyllfa'r ysbyty o flaen pwyllgor iechyd y Cynulliad fore Iau.

Yn gynharach fe ddaeth yn amlwg y bu bron i uned frys yr ysbyty gael ei chau ar "ddau neu dri achlysur" yn 2020 oherwydd prinder staff, yn ôl y rheolwyr.

Dywedodd Mr Lyons wrth y pwyllgor fod y bwrdd iechyd bellach yn cynnal "ymgyrch recriwtio egnïol".

Mae prinder staff arbenigol yn un o'r prif resymau pam fod y bwrdd iechyd yn ystyried cau gwasanaethau brys 24 awr dan ofal ymgynghorwyr arbenigol yn yr ysbyty.

Yn ystod cyfarfod y pwyllgor iechyd, gofynnodd AC Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth i Mr Lyons ei fod wedi clywed awgrym nad oedd "ymdrech o sylwedd wedi bod drwy hysbysebu i recriwtio ymgynghorwyr am efallai pum mlynedd".

Mewn ymateb dywedodd Nick Lyons: "Ac fe allai hynny fod yn wir."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgynghorydd llawn amser olaf uned frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn gadael fis Ebrill

Ychwanegodd ei fod yn anodd gan ei fod yn newydd i'r swydd i wybod pa fath o drafodaethau oedd wedi bod am geisio lliniaru problemau staffio.

"Rwy'n credu mai'r oll allaf ddweud nawr... yw ein bod yn cynnal ymgyrch recriwtio egnïol yn llawn dychymyg ar gyfer swyddi'r ymgynghorwyr hynny ar gyfer y bwrdd iechyd fel y gall doctoriaid sydd yn dod i mewn gael hyder ym mha bynnag ddyfodol sydd gan Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a bod mwy na digon o waith iddyn nhw yng Nghwm Taf Morgannwg ar draws yr adran."

Dywedodd fod sgyrsiau "un i un" yn cael eu cynnal gyda doctoriaid locwm er mwyn gweld os oes modd gwneud unrhyw beth i'w recriwtio i fod yn staff llawn amser.

Cefnogi cau uned dros nos

Yn y cyfamser, mae'n bosib y bydd rhai meddygon yn cefnogi cau uned frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg dros nos - ond fel mesur dros dro yn unig.

Maen nhw'n poeni am yr effaith ar yr ysbyty yn yr hirdymor pe bai'r uned frys yn cael ei israddio yn barhaol.

Fe fydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cwrdd ddydd Iau i drafod opsiynau, ond eisoes mae trigolion lleol a gwleidyddion wedi mynegi gwrthwynebiad i'r syniad o israddio'r uned frys.

Pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa prinder staff?

  • Mae lefelau staffio unedau brys yn is nag argymhellion y DU, a bydd unig ymgynghorydd uned frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn gadael ym mis Ebrill;

  • Bydd dim un ymgynghorydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg - dylai fod 10;

  • Mae staff yn gorfod cael eu symud o Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn helpu'r sefyllfa;

  • Mae nifer yr ymgynghorwyr yn Ysbyty Tywysog Cymru, Merthyr, yn "sylweddol is" na'r hyn sy'n ddymunol, a dyw'r ffigyrau yn Ysbyty Tywysoges Cymru ddim yn "ddelfrydol".

Beth yw'r opsiynau?

Yn ddelfrydol byddai'r bwrdd am gadw'r uned frys yn un 24 awr, ond maen nhw'n dweud nad oes modd gwneud hyn mewn modd diogel ar hyn o bryd.

Un o'r opsiynau fyddai cynnig gofal uned man-anafiadau 24 awr, ond cau'r uned frys.

Opsiwn arall dan ystyriaeth yw cau'r uned frys dros nos.

Ddwywaith dros gyfnod y Nadolig bu'r rhaid cau'r uned i'r cleifion mwyaf sâl, gan eu dargyfeirio i Ysbyty Tywysog Charles.

Mae yna brinder ledled y DU o ymgynghorwyr ar gyfer unedau brys, gyda'r canolfannau trawma mawr yn ei chael yn hawdd denu staff.

'Effaith ddomino'

Dywedodd Tim Appanna, ymgynghorydd iwrolegol a chadeirydd pwyllgor staff hŷn yr ysbyty, ei fod yn cydnabod fod yn rhaid cael newidiadau.

Mewn byd delfrydol, meddai, byddai yna uned frys 24 awr, ond mae'n cydnabod yn y tymor byr - o bosib am flwyddyn - y bod yn rhaid symud i'r opsiwn lle mae'r uned frys yn cau dros nos.

Ond dywedodd y byddai ond am i hyn i fod yn rhywbeth dros dro, gan obeithio bod modd datrys y broblem recriwtio.

Mae'n poeni pe bai'r newid yn un parhaol y gallai gael "effaith ddomino" gan effeithio gwasanaethau ac adrannau arall.

"Mae'r ysbyty wedi gwneud yn dda iawn ym maes llawdriniaeth a meddyginiaethau ac os rydym yn dechrau colli'r gwasanaethau yma byddai'n broblem, nid i ni ond yn hytrach i'r boblogaeth rydym yn ei wasanaethu," ychwanegodd.

Faint sy'n defnyddio unedau brys?

Mae ychydig yn fwy o gleifion yn defnyddio'r uned frys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg bob mis nag sy'n defnyddio uned Ysbyty Tywysog Charles, ym Merthyr.

Fe wnaeth bron i 125,300 ymweld â'r ddwy uned y llynedd, cyfartaledd o 10,440 y mis.

Mae'r nifer sy'n defnyddio'r ddau ysbyty bob blwyddyn wedi cynyddu - ond mae'r bwrdd iechyd am asesu'r effaith posib o unrhyw newidiadau ar ysbytai cyfagos, gan gynnwys Caerdydd.

Mae llai na 1,000 o gleifion y mis yn defnyddio unedau man-anafiadau'r ddau ysbyty.