Galw am atal cwmnïau rhag elwa o gartrefi plant

  • Cyhoeddwyd
PlantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 36 o gwmnïau yn gyfrifol am gartrefi plant yng Nghymru

Dylai cwmnïau preifat gael eu hatal rhag gwneud elw wrth gynnal cartrefi plant neu ofal maeth, meddai Comisiynydd Plant Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad gan Yr Athro Sally Holland, sy'n dweud bod plant yn teimlo eu bod nhw'n cael eu "prynu a'u gwerthu" yn y system ofal.

Mae mwy na 770 o lefydd i blant mewn cartrefi gofal yng Nghymru - ac mae bron i 80% yn cael eu cynnal gan gwmnïau preifat.

Yn ei hadroddiad blynyddol, dywedodd Ms Holland fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru "gymryd camau pendant o fewn y flwyddyn nesaf at leihau ac yn y pen draw ddileu elw o wasanaethau gofal plant, heb niweidio trefniadau gofal presennol plant a phobl ifanc".

Dywedodd bod plant sydd wedi cael gofal gan gwmnïau preifat wedi dweud wrthi eu bod nhw'n poeni am elw.

"Dywedodd un person ifanc fy mod i'n wirioneddol hapus gyda fy ngofalwyr maeth, ond rydw i'n anhapus ynglŷn â lefel yr elw sy'n mynd i ryw gwmni pell," meddai.

"Maen nhw wedi dweud wrthyf ei fod yn teimlo fel ein bod ni'n cael ein prynu a'n gwerthu ar farchnad."

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru, sydd am gwtogi nifer y plant mewn gofal, fod "ail-gydbwyso" tuag at ddarparwyr cyhoeddus a dielw yn flaenoriaeth.

Gwariodd y llywodraeth £100,000 eleni yn ceisio helpu cynghorau i recriwtio mwy o ofalwyr maeth.

Mae cwmnïau preifat - drwy gytundeb ariannol gydag awdurdodau lleol - yn chwarae rhan bwysig wrth ofalu am blant mewn gofal.

Mae 36 cwmni yn gyfrifol am gartrefi plant yng Nghymru. Mae'r pedwar cwmni mwyaf - Orbis, Care Tech, Keys a Priory Education Services - yn rheoli 28% o'r cartrefi.

Ni wnaeth yr un o'r pedwar cwmni ymateb i gais y BBC am sylw ynglŷn â sylwadau'r Comisiynydd.

Uno

Yn ddiweddar, trwy uno busnesau llai, mae rhai cwmnïau wedi tyfu mewn maint.

Canfu ymchwil ar ran y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn Lloegr fod y chwech mwyaf wedi gwneud £215m o elw, llynedd.

Mae'r Gymdeithas wedi cwestiynu a yw rhai o'r cwmnïau a'r arian i ad-dalu eu benthyciadau.

Dywedodd yr ICHA - corff sy'n cynrychioli'r cwmnïau - fod y system yn gofalu am blant ag anghenion cynyddol gymhleth sy'n costio mwy i ofalu amdanynt.