Mwy na Gêm: Cefnogi pêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd
Ymhen ychydig fisoedd bydd tîm pêl-doed Cymru'n teithio i Azerbaijan a'r Eidal i gystadlu yng nghystadleuaeth Ewro 2020. Bydd miloedd o gefnogwyr Cymru hefyd yno i weld carfan Ryan Giggs yn wynebu y Swistr, Twrci a'r Eidal.
Ond beth yw dylanwad y tîm pêl-droed cenedlaethol ar ein hunaniaeth a'n cenedligrwydd? Dyma mae Rhys Iorwerth yn ei drafod ar ei raglen ar BBC Radio Cymru ar 1 Mawrth.
Fis Tachwedd dwytha, mi olygodd dwy gôl Aaron Ramsey yn erbyn Hwngari fod tîm pêl-droed Cymru wedi cyrraedd eu hail Bencampwriaeth Ewropeaidd mewn pedair blynedd.
Wrthi'n dod yn ôl i'r ddaear oeddwn i pan gysylltodd Gethin Griffiths, un o gynhyrchwyr Radio Cymru. "Ti awydd gwneud rhaglen efo fi yn edrych ymlaen at yr Ewros?" holodd o.
Os oes yna un pwnc dan haul wrth fodd fy nghalon i, wel pêl-droed ydi hwnnw. Pêl-droed Cymru wedyn? Doedd hynny ond yn gwneud y cynnig yn un gwell.
Eto i gyd, roeddwn i'n eitha' petrus - dydw i erioed wedi cyflwyno rhaglen radio o'r blaen.
"Ond yn fwy na hynny," meddai Gethin. "Rydw i isio edrych yn fanylach ar y berthynas rhwng y tîm pêl-droed a chwestiynau am ein hunaniaeth a'n cenedligrwydd ni."
A finnau wedi dilyn Cymru i bob twll a chornel ers blynyddoedd, ond heb oedi o gwbwl i holi pam yn union fy mod i'n gwneud hyn, roedd o'n swnio'n gyfle rhy dda i'w golli. Yn gyfle i edrych yn fanylach ar y diwylliant yma sydd wedi bod yn rhan reit ganolog o 'mywyd i ers oes.
Fi fyddai'r cynta' i gyfadde' bod cefnogi Cymru - gartre' a thramor - yn achlysuron cymdeithasol yn benna' oll. Maen nhw'n gyfle i gael hwyl a chyfarfod ffrindiau. A bron, ar adegau, y dywedwn i fod gweld rhyw ychydig bach ar y byd lawn cyn bwysiced â gweld rhyw ychydig bach o ffwtbol.
Ond efo'r llwyddiant nodedig sydd wedi dod i ran y tîm, a'r naws arbennig o Gymreig sydd i'w synhwyro wrth fod yn rhan o'r 'Wal Goch', siawns bod yna rywbeth mymryn dyfnach na hynny y tu ôl i fy nheyrngarwch i hefyd?
Sut arall mae esbonio'r ias a'r blew bach sy'n codi wrth glywed bloeddio'r anthem yn ddigyfeiliant yn y Canton Stand? Y cynhesrwydd yn y galon wrth weld balchder diweddar y tîm yn eu Cymreictod, a gwaith y Gymdeithas Bêl-droed yn hyrwyddo'r Gymraeg?
Y gorfoledd di-ben-draw yn Ffrainc yn 2016 wrth fynd ymhellach ac ymhellach yn y gystadleuaeth, a'r gogoniant drachefn ar ddiwedd y gêm honno ym mis Tachwedd a ninnau wedi cyrraedd y ffeinals eto?
O fynd at wraidd y mater, mi ddes i'r casgliad bod yna lawer mwy i'r profiad na mwynhau'n unig. A bod modd i ddylanwad y tîm pêl-droed ar ein bywyd cenedlaethol ni fod yn eitha' pellgyrhaeddol. Ond ym mha fodd yn union?
Mi fwriais iddi i holi llond teras o bobl am eu teimladau nhw. O griw merched y 'Wariars' sy'n mynd i bob gêm, i selogion yr Oval, fy nghae pêl-droed lleol yng Nghaernarfon.
Mi geisiais i farn pyndits a lleisiau cyfarwydd fel Sioned Dafydd, Tim Hartley, Garmon Ceiro a Dylan Llywelyn.
Mi es at lygad y ffynnon yn y Gymdeithas Bêl-droed i sgwrsio efo Ian Gwyn Hughes a'r goli, Owain Fôn Williams.
Mi glywais bersbectif y blynyddoedd trwy lygaid yr hanesydd chwaraeon Mei Emrys.
Ac mi ges i sawl sgwrs ddifyr efo'r academyddion gwybodus, Laura McAllister, Carwyn Jones, a Martin Johnes.
Dyma arweiniodd at edrych ar ddwy thema ganolog: sut mae ein tîm pêl-droed cenedlaethol ni'n effeithio ar argraff pobl o'r tu allan ohonon ni fel gwlad, a sut mae'n effeithio ar ein hymdeimlad ni'n hunain o bwy ydan ni.
Gêm syml ydi pêl-droed meddai'r ddihareb enwog. Ond rhywbeth a ddaeth yn eitha' clir yn eitha' sydyn oedd nad oes yna ddim o anghenraid yn syml am yr atebion i'r cwestiynau hyn.
Does dim modd gwadu anferthedd cystadleuaeth fel yr Ewros wrth roi llwyfan a phlatfform i genedl fach fel ni. Ond wrth geisio dirnad natur ein Cymreictod ni yn y cyd-destun hwn - yn enwedig yng nghanol yr hinsawdd gwleidyddol sydd ohoni - dydi pethau ddim mor ddu a gwyn â gwisg y reffarî.
Fis Mehefin, mi fydd yna hetiau bwced ar y ffleit i Baku; ymlaen wedyn i'r haf yn Rhufain. A phwy a ŵyr ble ar ôl hynny. Mi fydda' innau yn eu plith. Ond ers cyfrannu at y rhaglen hon, yn eu plith efo dealltwriaeth ychydig cyfoethocach, gobeithio, o arwyddocâd ac ystyr bod yno.
Hefyd o ddiddordeb: