Gwahardd chwaraewr rygbi am sylw hiliol
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr rygbi wedi cael ei wahardd am wyth wythnos wedi iddo wneud sylw hiliol yn erbyn gwrthwynebydd yn ystod gêm ar ddechrau'r flwyddyn.
Daeth y gêm rhwng Llanrhymni a Threfil i ben yn gynnar yn dilyn y digwyddiad yng Nghaerdydd ar 4 Ionawr.
Roedd clwb Llanrhymni wedi honni bod eu canolwr Wayne Dacruz wedi cael ei gam-drin yn hiliol.
Dywedodd datganiad gan Undeb Rygbi Cymru: "Nid oes lle i gamdriniaeth o unrhyw fath yn rygbi'r undeb."
Cardiau coch
Cafwyd tri cherdyn coch yn ystod yr ornest Cynghrair 3 Canol Dwyrain C ar dir chwarae Neuadd Llanrhymni yn y brifddinas.
Daeth panel yr Undeb i'r casgliad fod gweithred y chwaraewr yn haeddu gwaharddiad o 12 wythnos, gyda gostyngiad o bedair wythnos o achos nifer o ffactorau.
Roedd rhain yn cynnwys tystiolaeth fod yr ymddygiad wedi dod "ar ôl i'r chwaraewr gael ei bryfocio'n sylweddol", ac nid oedd yr ymddygiad yn cydfynd â chymeriad y chwaraewr, a'r ffaith fod ganddo record dda o ddisgyblaeth dros gyfnod o 20 mlynedd o chwarae.
Bydd y chwaraewr yn cael dychwelyd i'r gamp ar 23 Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2020