Y Gynghrair Genedlaethol: Yeovil 3-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Huish ParkFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Huish Park, cartref Yeovil

Cafodd Yeovil Town fuddugoliaeth gyfforddus dros Wrecsam brynhawn Sadwrn, gan gadw eu gobeithion o gael eu dyrchafu yn fyw.

Aeth y tîm cartref ar y blaen yn dilyn camgymeriad gan olwr y Dreigiau, Rob Lainton, a fethodd â chlirio'r bêl yn gywir, a chaniatáu i Courtney Duffus ei tharo i gefn y rhwyd.

Dyblwyd y sgôr gan Luke Wilkinson ar ôl yr egwyl, gydag Albi Skendi yn sicrhau trydedd i Yeovil wrth iddyn nhw orffen y diwrnod yn drydydd yn y tabl. Mae Wrecsam yn 17eg.

Dywedodd rheolwr Wrecsam, Dean Keates: "Mae hi fel un cam ymlaen ac yna dau gam yn ôl. Nid oedd ein gêm yn un o ansawdd heddiw."