Angen "ymchwiliad hyd braich" i lifogydd yn Llanrwst

  • Cyhoeddwyd
Cyfarfod Llanrwst
Disgrifiad o’r llun,

Roedd swyddogion o Network Rail, Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Conwy yn y cyfarfod fore Sadwrn

Daeth dros 100 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Llanrwst dydd Sadwrn i drafod y llifogydd diweddar.

Cafodd busnesau a chartrefi yn y dref eu difrodi gan Storm Ciara yn gynharach ym mis Chwefror.

Galwodd trefnydd y cyfarfod, Janet Finch-Saunders AC, unwaith eto am ymchwiliad annibynnol i'r amddiffynfeydd llifogydd lleol.

Mae gweinidog yr amgylchedd wedi dweud yn y gorffennol bod "nifer o'r amddiffynfeydd" wedi gweithio.

Daeth swyddogion o Network Rail, Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Conwy a chymdeithasau tai i wrando ar bryderon trigolion.

Dywedodd y Ceidwadwr Ms Finch-Saunders bod y cynlluniau llifogydd wedi'u dylunio ar gyfer digwyddiadau anghyffredin, ond bod hynny'n digwydd yn aml bellach.

Galwodd am "ymchwiliad hyd braich" i adolygu amddiffynfeydd llifogydd y dref.

Wrth ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru bod ymchwiliad i'r llifogydd eisioes wedi dechrau ac y bydd y "canfyddiadau a'u hargymhellion wedi'u cyhoeddi ar gael i'w craffu'n annibynnol."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o fusnesau a chartrefi yng nghanol tref Llanrwst eu difrodi adeg Storm Ciara ddechrau mis Chwefror

"Dydw i ddim eisiau i Gyfoeth Naturiol Cymru gynnal yr adolygiad nesaf", meddai.

Dywedodd un o'r trigolion, Samantha Egelstaff, ei bod wedi sefydlu Grŵp Gweithredu Llifogydd Llanrwst i ddod â phobl at ei gilydd wedi i'r llifogydd daro.

"Fe greon ni'r grŵp achos bod diffyg gweithredu a pharatoi pan ddaeth y storm.

"Mae angen mwy o gyfathrebu, mwy o gydweithio, a mwy o ganolbwyntio ar bobl fregus."

Wrth ymateb dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod Cynllun Llifogydd Dyffryn Conwy wedi llwyddo i atal llifogydd rhag cyrraedd tai yn Llanrwst a Threfriw yn ystod Storm Ciara.

Dywedodd Siân Williams, Pennaeth Gweithrediadau CNC yng Ngogledd Orllewin Cymru: "Gall llifogydd ddinistrio cymunedau ac er na ellir byth osgoi llifogydd yn llwyr, rydym yn gweithio i leihau'r risg i bobl ac eiddo.

"Mae ein timau wedi bod yn gweithio ar lawr gwlad yn Nyffryn Conwy bob dydd ers y cyfnod cyn Storm Ciara - yn gwirio a chodi amddiffynfeydd, yn sicrhau bod cyrsiau dŵr yn rhedeg yn glir ac yn gwneud atgyweiriadau lle bo angen.

"Yn dilyn stormydd o'r maint hwn, mae yna gwestiynau i'w hateb bob amser.

"Byddwn nawr yn gweithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wrth iddyn nhw baratoi Adroddiad Ymchwilio Llifogydd."

Wrth ymateb i sylwadau Ms Finch-Saunders dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "awdurdodau lleol eisoes wedi dechrau ymchwilio i'r digwyddiadau llifogydd yn eu hardaloedd... (ac) unwaith y bydd eu canfyddiadau a'u hargymhellion wedi'u cyhoeddi byddant ar gael i'w craffu'n annibynnol."