Rhybudd melyn am rew yn y gogledd a rhan o Bowys

  • Cyhoeddwyd
Map rhybudd melyn am rew y Swyddfa DywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd yn dod i rym am hanner nos ac yn para tan 10:00 fore Llun

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew dros nos yn rhannau gogleddol o Gymru.

Mae'r rhybudd yn dod i rym am hanner nos ac yn para tan 10:00 fore Llun, sy'n golygu y gallai cawodydd o eira effeithio ar bobl yn ceisio mynd i'w gwaith.

Mae'n berthnasol i siroedd Conwy, Dinbych, Y Fflint, Gwynedd, Powys a Wrecsam.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod "peth eira'n debygol ar ffyrdd mewn mannau uchel" gan effeithio ar nifer gymharol fach o lefydd, ond bod angen i bobl bwyllo ar ffyrdd, llwybrau a phalmentydd sydd heb eu trin â halen.