Disgwyl gwyntoedd cryfion wedi llifogydd yn y de nos Wener

  • Cyhoeddwyd
Sportsman's Rest yn Llanbedr y Fro, CaerdyddFfynhonnell y llun, Gareth Hardman
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tafarn y Sportsman's Rest yn Llanbedr y Fro, Caerdydd, o dan ddwr dydd Sadwrn

Mae disgwyl i Gymru wynebu gwyntoedd cryf heno gyda rhybudd melyn mewn grym tan 09.00 bore Sul.

Mae'r gwyntoedd wedi arwain eisoes at golli cyflenwadau trydan mewn rhannau o'r de, ac fe ddaw y gwyntoedd ar ôl glaw trwm dros nos yn sgil Storm Jorge.

Mae'r gwyntoedd a'r llifogydd wedi effeithio ar ffyrdd, rheilffyrdd a gwasanaethau fferi rhwng de Cymru ac Iwerddon.

Mae traffordd yr M4 ar gau rhwng cyffyrdd 41 (Baglan) a 42 (Abertawe) oherwydd gwyntoedd cryfion, ac mae'r ail bont Hafren ar yr M48 ar gau i gyfeiriad y dwyrain hefyd.

Yn y gogledd mae Pont Y Fflint ar yr A548 ar Lannau Dyfrdwy ar gau ac mae cyfyngiadau cyflymder ar Bont Britanna ar yr A44, yn ôl Traffic Cymru.

Mae'r rhybudd am wynt yn rhedeg nes 09.00 fore Sul, gyda'r rhybudd yn dod i ben am 15.00 yn y gogledd.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae gwynt o gyflymder o 69 mya wedi cael ei gofnodi ym Mhenbre yn Sir Gâr eisioes.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Merthyr Tudful

Cafodd pentref Pontsticill ger Merthyr Tudful ei hynysu y rhan fwyaf o'r diwrnod yn dilyn tirlithriad ger Aberglais, Pontsarn dros nos.

Bu'n swyddogion o Gyngor Merthyr Tudful yn clirio'r ffordd ac atgyfnerthu tir wrth ochr y ffordd y mwyafrif o'r dydd, ac erbyn hwyr prynhawn Sadwrn roedd y ffordd wedi cael ei hail-agor.

Trafferthion i deithwyr

Fe dderbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru 72 galwad dros nos Wener tan 06.00 fore Sadwrn, ond yn ystod y bore fe wnaeth lefel yr afonydd ddisgyn.

Dywedodd Heddlu'r De bod Pont Elai rhwng Treganna a Threlái wedi cau am ychydig oriau nos Wener yn sgil lefel uchel y dŵr.

Roedd nifer o reilffyrdd yn parhau ar gau fore Sadwrn, ar ôl i ddwsinau o deithwyr wynebu trafferthion nos Wener wedi i lifogydd effeithio ar y rheilffyrdd yn y de.

Cafodd gwasanaethau i Abertawe, Merthyr, Pontypridd, Manceinion, Rhymni, Glyn Ebwy a chanolbarth Lloegr eu heffeithio, gyda nifer o deithwyr methu gadael prif orsaf Caerdydd.

Roedd trenau rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd, Cas-gwent a Chaerloyw a nifer o leoliadau rhwng Caerdydd a Chaerfyrddin wedi eu heffeithio hefyd.

Cafodd cledrau'r rheilffordd drwy gwm Rhymni eu heffeithio yn Llysfaen yng Nghaerdydd, ac roedd y rheilffordd ar gau i'r gogledd o Cross Keys yng Nghaerffili.

Yn y gogledd mae'r rheilffordd rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn parhau ar gau yn dilyn difrod gafodd ei achosi gan Storm Ciara.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd llawer o ffyrdd gwledig o amgylch Caerdydd ac ym Mro Morgannwg, fel yr un yma yn Sain Ffagan, o dan ddwr fore Sadwrn

Dywedodd Bethan Jelfs o Trafnidiaeth Cymru: "O brynhawn Sadwrn ymlaen rydyn ni'n disgwyl amodau stormus iawn a gwyntoedd cryf sydd a'r potential i ddifrodi coed a seilwaith, felly fe fydd yna gyfyngiadau cyflymder ar rai o linellau'r rhwydwaith rhwng 15.00 - 20.00 dydd Sadwrn allai arwain at beth oedi."

"Mae'n anochel y bydd yr amodau heriol yn arwain at oedi ac efallai ganslo rhai gwasanaethau", meddai. "Os fydd cwsmeriaid yn methu â theithio heddiw fe fydd eu tocynnau'n ddilys ar gyfer teithiau ar ddydd Sul a Llun."

Treherbert yn Rhondda Cynon Taf oedd y lle gwlypaf yn y DU ddydd Gwener, gyda 56mm (2.2 modfedd) o law yn disgyn yno.

Daw tywydd garw Storm Jorge yn dilyn llifogydd difrifol gafodd ei achosi gan Stormydd Ciara a Dennis yn gynharach yn y mis.

Ffynhonnell y llun, Met Office
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd gan y Swyddfa Dywydd am wynt cryf mewn grym o 12:00 hyd at 12:00 ddydd Sul.

Dywedodd Jeremy Parr o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn bryderus yn enwedig am y rhagolygon o law sylweddol yn y de, yn enwedig mor fuan wedi Storm Dennis.

Ychwanegodd y dylai pawb gymryd gofal a pheidio gyrru na cherdded drwy lifogydd.