Hallam Amos allan am weddill y tymor ag anaf i'w ben-glin
- Cyhoeddwyd
Fe fydd asgellwr Cymru, Hallam Amos yn methu gweddill y Chwe Gwlad yn dilyn anaf i'w ben-glin.
Cafodd Amos yr anaf wrth chwarae i'r Gleision yn erbyn Benetton yn y Pro14 y penwythnos diwethaf.
Fe fydd nawr yn cael llawdriniaeth ac mae disgwyl iddo fethu gweddill y tymor.
Dydy Undeb Rygbi Cymru ddim wedi cyhoeddi eto a fydd chwaraewr arall yn cael ei alw i garfan Cymru yn absenoldeb Amos.
Mae'r maswr Sam Davies eisoes yn ymarfer gyda'r garfan yn dilyn amheuon dros ffitrwydd Dan Biggar cyn iddyn nhw herio Lloegr ddydd Sadwrn.