Hosbisau plant 'mewn argyfwng' o safbwynt cyllido
- Cyhoeddwyd
Mae Tŷ Hafan, un o'r ddwy hosbis i blant yng Nghymru, yn dweud eu bod wedi cyrraedd sefyllfa o argyfwng o safbwynt cyllid.
Mae hosbisau plant Cymru yn derbyn llai na 10% o'u harian gan Lywodraeth Cymru, sy'n sylweddol is na gwledydd eraill y DU.
Yn hytrach maen nhw'n dibynnu ar roddion gan y cyhoedd am weddill eu cyllid.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio gyda Thŷ Hafan a hosbisau eraill i ddeall pa gyllido sydd ei angen er mwyn cwrdd â'u hanghenion i'r dyfodol".
Ansicrwydd cyllido
Yn Yr Alban, mae hosbisau plant yn derbyn 53% o'u cyllid gan Lywodraeth Yr Alban, ac yn Lloegr fe ddaw 21% o gyllideb hosbisau plant o Lywodraeth y DU.
Mae'r sefydliadau yn darparu gofal un-am-un arbenigol a gwasanaethau eraill i blant sydd â chlefydau marwol a'u teuluoedd.
Mae hyn yn cynnwys gofal diwedd oes, gofal argyfwng a gofal hoe er mwyn o ofalwyr arferol gael gorffwys.
Ond yn y ddwy hosbis plant yng Nghymru - Tŷ Hafan yn Sili, Bro Morgannwg a Thŷ Gobaith yng Nghonwy - mae ansicrwydd am gyllido yn cael effaith ar eu gallu i gynllunio i'r dyfodol.
'Byw o'r llaw i'r genau'
Dywedodd Andy Goldsmith, sy'n rhedeg Tŷ Gobaith, eu bod yn "byw o'r llaw i'r genau o flwyddyn i flwyddyn".
Ychwanegodd fod gan Gymru "y cyfle i fod yn wlad sy'n arwain ar ofal hosbis i blant" ond bod angen mwy o gyllido statudol er mwyn cynnig "diogelwch" i'r elusen.
Yn ôl Carol Killa, pennaeth gofal yn Nhŷ Hafan, mae'r straen ariannol wedi eu gorfodi i flaenoriaethu teuluoedd gydag anghenion brys, ac o ganlyniad wedi gorfod haneru'r gofal hoe y maen nhw'n ei gynnig dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae Tŷ Hafan yn dechrau bod mewn argyfwng nawr," meddai. "Ry'n ni'n colli'r gallu i ddarparu'r gofal hoe y mae'r teuluoedd yma ei angen, a hynny er mwyn medru cadw i fynd o ddydd i ddydd.
"Gyda chalon drom yr ydym wedi gorfod gwneud newidiadau dros y flwyddyn fel y gallwn ni gwrdd â'r galw am ofal diwedd oes."
Dywedodd Ms Killa ei bod yn costio £4.5m y flwyddyn i redeg Tŷ Hafan.
Mae un teulu sy'n dibynnu ar y gofal sy'n cael ei gynnig gan Dŷ Hafan yn dweud fod y sefyllfa'n gwneud iddyn nhw deimlo "fod y llywodraeth yn malio dim am deuluoedd" fel nhw.
Mae Lisa a Matthew Williams yn ofalwyr llawn amser i'w mab Macsen, sy'n wyth oed ac â chyflwr prin o'r enw Grin 2-A. Mae ganddo hefyd epilepsi, parlys yr ymennydd a scoliosis, ac mae angen gofal 24 awr y dydd arno.
Mae'n cael sawl ffit bod dydd gyda rhai yn medru para hyd at hanner awr.
Tŷ Hafan yw'r unig le sy'n cynnig gofal hoe iddyn nhw, gan fod nyrsys arbenigol yno sy'n medru darparu'r gofal cymhleth sydd ei angen arno.
Dywedodd Ms Williams: "Heb fan hyn, does dim diwrnod lle dydyn ni ddim yn gwneud rhywbeth i Macs neu gyda Macs... does gyda ni ddim bywyd gyda'n gilydd mewn gwirionedd. Mae'n galed gyda'n mab arall ni hefyd.
"Dyw pobl ddim yn sylweddoli beth ry'n ni'n mynd drwyddo o ddydd i ddydd, a dwi'n credu ein bod ni wedi blino nad yw pobl yn gweiddi mwy am hyn.
"Dwi'n credu ein bod ni'n isel ar restr flaenoriaethau'r llywodraeth."
Gwasanaeth 'hanfodol'
Nid yw cyllido ar gyfer hosbisau plant yng Nghymru wedi cael ei adolygu ers 2009. Maen nhw'n derbyn eu cyllid gan y bwrdd iechyd lleol, ond does dim grant canolog.
Dywedodd Dawn Bowden, AC Merthyr Tudful ac aelod o bwyllgor hosbisau'r Cynulliad, nad yw am weld Tŷ Hafan na Thŷ Gobaith yn gorfod dibynnu ar roddion elusennol, gan ychwanegu: "Dylai hyn nawr fod yn rhan ganolog o sut mae ein gwasanaethau iechyd yn cael eu hariannu."
"Gorau po gynted y gallwn ni drefnu bod rhywbeth mewn lle," ychwanegodd, er ei bod hefyd yn cyfaddef bod y penderfyniad yn un cymhleth.
"Byddwn i'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru o'r farn fod y gwasanaeth yma yn hanfodol i blant sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu'u bywydau nhw a'u teuluoedd, ac y byddan nhw'n ymateb i hynny cyn gynted â phosib."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hosbisau yn ganolog i'n dull o ddarparu gofal diwedd oes ac nid oes modd tanamcangyfrif gwerth y gefnogaeth y maen nhw'n ei ddarparu i gleifion, teuluoedd, a gofalwyr.
"Rydym yn gweithio gyda Thŷ Hafan a hosbisau eraill i ddeall pa gyllido sydd ei angen er mwyn cwrdd â'u hanghenion i'r dyfodol ,a sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu gofal a chefnogaeth o'r radd flaenaf."
Gallwch weld mwy am y stori ar raglen Wales Live ar BBC One Cymru nos Fercher am 22:30.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2018