Galwad am fuddsoddiad sylweddol yng Nghymru yn y Gyllideb
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai Canghellor llywodraeth y Deyrnas Unedig ddefnyddio datganiad y Gyllideb yr wythnos hon i fuddsoddi yn sylweddol yng Nghymru.
Yn ôl y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, mae angen i Gymru dderbyn "cyfran deg o fuddsoddiad yn y rheilffyrdd" a buddsoddiad newydd i ddatblygu economi'r wlad.
Mewn llythyr at y Canghellor Rishi Sunak AS mae Rebecca Evans AC yn galw am fuddsoddiad pellach mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd llefarydd llywodraeth y DU y byddai'r Gyllideb yn "gweithredu'r addewidion a wnaed i bobl Prydain, ac yn gwella cyfleodd ymhob rhan o wledydd a rahnbarthau y DU."
"Yn y datganiad ar wariant yn Medi 2019 , fe gyhoeddwyd y byddai grant bloc Llywodraeth Cymru yn cynyddu dros £600m y flwyddyn nesaf."
Bydd Cyllideb y Canghellor yn cael ei ddatgelu mewn araith i Dŷ'r Cyffredin dydd Mercher, ac mae Mr Sunak wedi gorfod cwblhau ei gynlluniau ar frys yn dilyn ymddiswyddiad y canghellor blaenorol Sajid Javid.
Yn ei llythyr mae Rebecca Evans yn dweud: "Os yw'r llywodraeth o ddifri', nawr yw'r adeg i fuddsoddi'n sylweddol yng Nghymru.
"Yn dilyn diffyg buddsoddiad dros gyfnod o ddegawdau, rwy'n galw am gyfran deg o fuddsoddiad yn y rheilffyrdd ac er mwyn hybu ymchwil a datblygiad mewn systemau ynni di-garbon.
Mae na alwad hefyd am addewid yn y gyllideb i sicrhau bod Cymru yn derbyn gan lywodraeth y DU swm cyfatebol i'r £375m a roddir yn flynyddol i Gymru o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd.
Yr wythnos diwethaf dywedodd Boris Johnson ei fod yn benderfynol i gydweithio â llywodraeth Cymru er mwyn helpu i ddelio a'r llifogydd sydd wedi taro sawl rhan o Gymru.
Yn ei llythyr mae Ms Evans yn ategu bod angen rhagor o arian wedi'r llifogydd ac er mwyn i'r gwasanaeth iechyd ddelio ag effeithiau'r coronafeirws.