Coronafeirws: Gohirio'r gêm rhwng merched Cymru a'r Alban
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n gyfrifol am gystadleuaeth y Chwe Gwlad wedi cyhoeddi fod y gêm rhwng merched Cymru a'r Alban wedi ei gohirio, ar ôl i un o garfan Yr Alban brofi'n bositif am coronafeirws.
Bellach mae saith o aelodau carfan merched Yr Alban - chwaraewyr a hyfforddwyr - yn hunan-ynysu.
Roedd y gêm i fod i gael ei chynnal ddydd Sul, 15 Mawrth.
Bydd yr ornest rhwng timau'r dynion y ddwy wlad yn mynd yn ei blaen yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Mae'r gêm rhwng dynion Ffrainc ac Iwerddon wedi ei gohirio, ond does dim cadarnhad os yw'r gêm rhwng timau merched y ddwy wlad a'r gemau dan-20 am gael eu cynnal.
Nid oes penderfyniad hyd yn hyn am ddyddiau ail-gynnal y gemau, gan fod angen asesu'r sefyllfa'n ofalus medd y trefnwyr.