Achub cath oedd yn sownd rhwng garej a wal

  • Cyhoeddwyd
Cath yn sownd rhwng wal a garejFfynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gath ei rhyddhau o fwlch tair modfedd o led rhwng garej a wal

Mae'r RSPCA yn chwilio am berchennog cath gafodd ei hachub rhwng garej a wal ym Mro Morgannwg brynhawn Llun.

Cafodd yr elusen anifeiliaid ei alw am 07:30 i achub y gath ar Ffordd Conybeare yn ardal Sili.

Yn ôl y swyddog ddaeth o hyd iddi, Sophie Daniels, roedd y gath yn ofnus ac yn oer ar ôl cael ei rhyddhau o fwlch tair modfedd o led rhwng garej a wal.

"Roedd y gath wirioneddol yn sownd ac ond yn gallu symud ei phen," meddai Ms Daniels.

"Ro'n i'n gallu estyn fy nwylo ato fe, ond doedd dim lle i'w gael e mas o gwbl.

"Ro'n i'n gallu gweld ei fod yn ofnus ac yn oer ac roedd yn rhaid i ni weithredu'n gyflym.

"Roedd y gwasanaeth tân yn wych, a gyda chaniatâd perchnogion y tŷ, fe dynnon nhw'r brics o'r garej er mwyn ei ryddhau e."

Ffynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid tynnu brics o'r garej er mwyn rhyddhau'r gath

Dyw hi ddim yn glir am ba mor hir roedd yr anifail yn sownd, ond mae'r RSPCA yn credu y gallai fod wedi bod yno dros nos.

Cath yn crynu

Roedd y gwaith o dynnu'r briciau wedi codi ofn ar y gath a gwneud iddi grynu, meddai Ms Daniels.

"Cyn gynted â'i fod e'n rhydd, fe gydies i ynddo fe a'i gludo at y milfeddyg i gael triniaeth," meddai.

"Cafodd ei osod ar flanced wedi'i gynhesu. Gobeithio, gyda rhywfaint o saib a chariad, bydd e'n teimlo'n llawer gwell!"

Nawr, mae'r gwaith o chwilio am berchennog y gath yn dechrau.

Does dim sglodyn micro arno, felly mae'r RSPCA yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i'r perchnogion.

"Os oes gwybodaeth gan unrhyw un allai arwain at berchnogion y gath hon, cysylltwch â ni ar 0300 123 8018," meddai llefarydd.