Coronafeirws a chyflyrau iechyd hirdymor
- Cyhoeddwyd
Gall coronafeirws effeithio ar unrhyw un, ond mae yna gred y gallai pobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor a phobl hŷn fod mewn mwy o berygl o ddatblygu symptomau difrifol.
Fel yr annwyd cyffredin, mae'r haint coronafeirws newydd fel arfer yn digwydd trwy gyswllt agos â pherson sydd â'r haint.
Mae cyswllt agos yn golygu bod llai na dau fetr i ffwrdd oddi wrth berson sydd â'r firws am fwy na 15 munud.
Gall rhywun hefyd gael ei heintio trwy gyffwrdd ag arwynebau lle mae'r feirws yn bresennol, ac nad ydyn nhw'n golchi eu dwylo.
Os oes gyda chi gyflwr iechyd hirdymor mae'n bosib eich bod chi'n teimlo'n bryderus. Felly dyma beth sy'n cael ei gynghori gan arbenigwyr...
Pwy sydd yn wynebu'r perygl mwyaf?
Nid yw cael cyflwr iechyd yn ei gwneud hi'n fwy posib y byddwch yn dal y feirws, ond mae'n ymddangos bod pobl hŷn, y rheiny sydd â systemau imiwnedd isel a phobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor fel y fogfa (asthma), diabetes neu glefyd y galon mewn mwy o berygl o ddatblygu symptomau difrifol.
Mae'r mwyafrif o bobl yn dod dros y feirws yn sydyn wedi rhai diwrnodau o orffwys. I rai pobl, mae'n gallu bod yn fwy difrifol ac, mewn achosion prin, yn gallu bygwth bywyd.
Mae'r symptomau'n debyg i afiechydon eraill sy'n fwy cyffredin, fel annwyd neu'r ffliw. Maen nhw'n cynnwys:
peswch;
tymheredd uchel;
cael trafferth anadlu.
Mae gen i asthma. Beth ddylen i ei wneud?
Cyngor yr elusen Asthma UK ydy i barhau i gymryd eich pwmp atal (yr un brown fel arfer) bob dydd fel sy'n cael ei argymell gan eich meddyg.
Fe fydd hyn yn lleihau'r posibilrwydd o gael ataliad asthmatig o ganlyniad i unrhyw feirws sy'n effeithio ar y system anadlu, gan gynnwys coronafeirws.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cario eich pwmp glas gyda chi bob dydd, rhag ofn eich bod yn teimlo bod eich symptomau asthma yn dod i'r wyneb.
Os yw eich asthma yn gwaethygu a bod yna risg bod gennych chi coronafeirws, cysylltwch gyda'r gwasanaeth iechyd.
Dwi'n oedrannus, a ddylen i aros adref ac ynysu fy hun?
Y cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ydy nad oes rhaid i bensiynwyr ynysu eu hunain.
Ond os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'ch iechyd, neu os ydych chi angen mwy o wybodaeth am y feirws ffoniwch 111, 0845 46 47 neu ewch i wefan y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.
Beth os oes gen i gyflwr iechyd parhaol?
Mae'r rheiny sydd â chyflyrau meddygol sylfaenol fel pwysedd gwaed uchel, cyflyrau yn ymwneud â'r ysgyfaint neu systemau imiwnedd gwan yn fwy tebygol o fynd yn ddifrifol wael o ganlyniad i'r haint.
Fe ddylai unrhyw un sydd â risg uchel o ddal y ffliw neu annwyd gymryd camau i leihau'r risg o ddal y feirws yn y lle cyntaf, ac i gysylltu gyda'r meddyg teulu os ydych chi'n teimlo'n sâl.
Fe ddylai'r rheiny sy'n dechrau dangos symptomau gysylltu gyda'u meddyg teulu neu ffonio rhif 111 y gwasanaeth iechyd am gyngor.
Mae gen i ddiabetes, beth ddylen i ei wneud?
Fe allai'r rheiny sy'n byw gyda math 1 neu fath 2 diabetes fod mewn mwy o berygl o ddatblygu symptomau difrifol.
Yn ôl yr elusen Diabetes UK fe alla'r feirws achosi trafferthion pellach i bobl sy'n dioddef o'r cyflwr.
Os oes gyda chi diabetes a bod gennych chi symptomau fel peswch, tymheredd uchel a theimlo'n fyr eich gwynt fe ddylech chi fonitro eich lefelau siwgr yn fanwl a ffonio'r gwasanaeth 111.
A ddylai menywod beichiog boeni?
Does dim tystiolaeth hyd yn hyn fod menywod beichiog yn syrthio i'r categori risg uchel.
Ond fel unrhyw un arall fe ddylen nhw gymryd camau i leihau eu risg o ddal y feirws.
Rydw i'n ysmygu, oes yna berygl i mi?
Mae meddygon yn cydnabod bod ysmygwyr yn fwy tebygol o ddal haint ysgyfaint a dwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu niwmonia na phobl sydd ddim yn ysmygu.
Maen nhw'n cynghori ysmygwyr i dorri'n ôl ar faint maen nhw'n ei ysmygu neu roi'r gorau iddi'n gyfan gwbl.
Oes angen i mi gael y brechlyn ffliw?
Mae'r coronofeirws yn feirws gwbl wahanol i un y ffliw, felly fydd y brechlyn ffliw ddim yn eich rhwystro rhag dal yr haint.
Beth ydy'r ffordd orau i mi osgoi dal y feirws?
Y gred ydy bod y feirws yn cael ei ledu drwy besychiadau ac o arwynebau sydd wedi cael eu heintio, megis dolen drws a chanllaw mewn mannau cyhoeddus.
Mae modd rhwystro'r firws rhag lledu drwy ddilyn arferion hylendid da:
Cuddiwch eich ceg a'ch trwyn gyda hances bapur neu eich llawes (nid eich llaw) pan fyddwch chi'n peswch neu'n tisian;
Rhowch yr hances yn y bin yn syth;
Golchwch eich dwylo gyda dŵr a sebon yn aml - defnyddiwch hylif glanhau llaw os nad oes dwr a sebon yn agos;
Ceisiwch osgoi pobl eraill sy'n sâl;
Peidiwch â chyffwrdd eich llygaid, eich trwyn na'ch ceg os nad yw eich dwylo'n lân.