Chwe achos arall o coronafeirws, y cyntaf yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
mwgwdFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Menyw yn gwisgo mwgwd yng Nghaerdydd

Mae chwe achos newydd o coronafeirws wedi eu cadarnhau yng Nghymru, gan gynnwys yr achos cyntaf yn y gogledd.

Mae'r achos hwnnw yn ardal Wrecsam a dyw'r unigolyn ddim wedi teithio i wlad sydd wedi ei heffeithio gan y feirws.

Dyw'r unigolyn chwaith ddim wedi bod mewn cyswllt gydag un o'r achosion eraill sydd wedi eu cadarnhau i fod gyda'r haint.

Mae hynny'n wir am un o'r cleifion eraill hefyd, sydd yn byw yn ardal Blaenau Gwent.

Mae'r datblygiad diweddaraf yn golygu bod 25 achos o coronafeirws wedi eu cadarnhau hyd yn hyn yng Nghymru.

Mae un achos arall yn Sir Fynwy. Y gred yw bod y claf yma wedi cael y feirws ar ôl teithio dramor ac mae unigolyn yng Nghaerdydd hefyd wedi dal coronafeirws ar ôl bod dramor.

Yn ardal Castell-nedd Port Talbot mae'r achosion olaf ac maen nhw wedi bod mewn cysylltiad gyda pherson sydd wedi cael ei heintio.

Dywedodd Dr Robin Howe o Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 785 o bobl erbyn hyn wedi eu profi ar gyfer y clefyd yn y wlad yma.

Ychwanegodd y byddai'r corff yn cynghori pobl i wirio'r cyngor os ydyn nhw'n dychwelyd dramor o rai gwledydd ac y dylai'r cyhoedd wneud yn siŵr eu bod yn golchi eu dwylo ac yn cario hances os ydyn nhw'n tagu neu'n tisian.

"Mae gwyddonwyr hyfforddedig Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach yn cynnal profion diagnostig Coronafeirws Newydd (Covid-19) yng Nghymru," meddai Dr Howe.

"Mae dros 90% o'r unigolion sydd wedi cael eu profi yng Nghymru wedi cael cynnig profion yn eu cartrefi eu hunain, gan ei gwneud mor hwylus â phosibl iddynt, yn ogystal â gwarchod ein hadnoddau ambiwlans ac ysbyty i'r rhai sydd eu hangen fwyaf."