Ymgyrch i ailagor gorsaf drenau yn codi stêm
- Cyhoeddwyd
Daeth dros 100 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin nos Iau i drafod yr ymgyrch i geisio ailagor yr orsaf reilffordd yn y dref.
Wedi iddi wasanaethu am dros ganrif, caeodd yr orsaf dros hanner can mlynedd yn ól - fel rhan o'r cynllun mawr i ailstrwythuro'r rheilffyrdd.
Mae bobl leol wedi bod yn ymgyrchu ers degawdau i'w hailagor.
Mae gorsaf wyth milltir i'r dwyrain yng Nghaerfyrddin, a saith milltir i'r gorllewin yn Hendy-gwyn ar Daf.
Ond i Eirian Davies, byddai'n wych cael gorsaf dafliad carreg o'u cartre'.
"Gyda'r haf nawr yn dod , y twristiaeth a'r traffig, mae'n gallu cymryd ambiti awr i fynd lan i Gaerfyrddin o Sanclér.
"Felly hopio ar y trên, lan i Gaerfyrddin, bydde fe jyst yn gyfleus, mae'n neis cal chat ar y trên yn lle bo' chi yn y car yn dyw e ?
"Felly bydden i'n sicr yn defnyddio'r tren jyst i fynd lan i Gaerfyrddin," meddai.
Mae merch Eirian, Ffion Davies yn ymgeisio am le mewn prifysgol ar hyn o bryd.
"Fi'n credu y bydde fe'n gwneud gwahaniaeth mawr. Fi nawr yn meddwl mynd i brifysgol.
"Felly i Gaerdydd neu Fryste, bydde mynd ar y trên nos Sul, syth lan i Fryste ac wedyn nôl, nos Wener - sdim ishe poeni am rywun i ddod i nôl fi i Gaerfyrddin, Hendy-gwyn - bydde fe yn Sanclér yn barod "
Mae cannoedd eisoes wedi llofnodi deiseb yn cefnogi'r ymgyrch. Ac i arweinwyr y dref, byddai'n fodd o gadw pobl oddi ar y ffyrdd, yn enwedig yn ystod cyfnod prysur yr haf, gyda Sir Benfro yn gyrchfan gwyliau poblogaidd.
Ynghyd á Threlái, Caerdydd, Carno ym Mhowys a Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint, mae Sanclér wedi cyrraedd y cam olaf yn adolygiad Llywodraeth Cymru o orsafoedd rheilffordd newydd yng Nghymru.
Casglu tystiolaeth
Mae'r ymchwil yn asesu hen orsafoedd yn ogystal á lleoliadau newydd, a bydd yn cael ei gyflwyno i Network Rail.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r penderfyniad terfynol yn nwylo Llywodraeth Prydain.
Yn ôl clerc Cyngor Tref Sanclér, Emma Smith, roedd y nifer a fynychodd y cyfarfod cyhoeddus yn galonogol tu hwnt.
"Y cam nesaf fydd parhau i gasglu tystiolaeth, i'w roi ymlaen i Lywodraeth Cymru, fel eu bod nhw yn medru cynnwys hwnnw yn eu hachos busnes. Nhw sy'n mynd i fod yn edrych ar y pethau technegol.
"Ond fel cyngor tref, ni'n trio casglu tystiolaeth fod y gymuned y tu ôl i'r ymgyrch," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2017