Dechrau ar y gwaith o godi gorsaf ger Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
gorsaf Bow StreetFfynhonnell y llun, Cyngor Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r orsaf newydd agor cyn diwedd 2020

Mae'r gwaith o godi gorsaf reilffordd newydd Bow Street ger Aberystwyth wedi dechrau ar gost o oddeutu £8m.

Llywodraeth Cymru ac Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU sy'n cyllido'r gwaith ac mae disgwyl iddi agor cyn diwedd y flwyddyn.

Bydd yr orsaf yn cael ei gwasanaethu gan drenau sy'n teithio ar Lein y Cambrian o Aberystwyth ac Amwythig.

Dyw trenau heb stopio yn y pentref ers 55 o flynyddoedd wedi i'r hen orsaf gau fel rhan o doriadau Beeching yn y 1960au.

Yn ystod y ddegawd ddiwethaf mae nifer wedi bod yn ymgyrchu i ailagor yr orsaf.

Ffynhonnell y llun, Ben Brooksbank
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr orsaf wreiddiol ei chau yn 1965 - ac mae bellach yn safle cyflenwyr adeiladwyr

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: "Mae ein gweledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd yn cynnwys agor gorsafoedd newydd a gwella cysylltedd ar draws pob rhanbarth yng Nghymru.

"Dyma gam cyntaf cyflawni'r uchelgais honno. Bydd Gorsaf Bow Street yn gwella cysylltiadau cyflogaeth, busnes, addysg a hamdden yng Nghanolbarth Cymru.

"Rydym wedi bod yn glir am yr angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi mwy, felly rydym yn croesawu'r cyllid hwn gan yr Adran Drafnidiaeth, sy'n sefyll ochr yn ochr â'n cyllid ni.

"Edrychwn ymlaen at weithio mwy ar y cyd a chael mwy o gyllid gan Lywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am seilwaith rheilffyrdd o dan y setliad datganoli cyfredol, i wella seilwaith rheilffyrdd ym mhob rhan o Gymru."

'Lleihau tagfeydd traffig'

Bydd yr orsaf newydd yn cael ei chodi i'r de o'r orsaf wreiddiol, sydd bellach yn safle i gyflenwyr adeiladwyr.

Mae'r cynllun wedi'i gyflwyno gan Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a Chyngor Ceredigion a bydd yr orsaf yn cynnwys cyfleusterau parcio a theithio a mannau storio beics.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, mai dyma'r cyntaf o bum cynllun tebyg fel rhan o ymrwymiad i "drawsnewid trafnidiaeth ledled Cymru".

Dywedodd Claire Williams, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol: "Bydd prosiect Cyfnewidfa Bow Street yn golygu bod y rheilffordd yn fwy hygyrch i deithwyr ledled y sir a bydd yn lleihau'r tagfeydd ar ffyrdd yr ardal, a bydd hynny'n lleihau allyriadau carbon sydd wrth gwrs yn llawer iawn gwell i'r amgylchedd.

"Mae Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian yn falch o fod yn rhan o'r prosiect hwn ers ei sefydlu, ac mae'n edrych ymlaen at yr agoriad yn nes ymlaen yn y flwyddyn."