Atgyweirio'r ffordd at Ynys Enlli yn dilyn tirlithriadau
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith wedi dechrau ar atgyweirio ffordd ym Mhen Llŷn, yn dilyn tirlithriadau sy'n achosi problemau mawr i bysgotwyr ac ymwelwyr i Ynys Enlli.
Ers cyn y Nadolig dydy cerbydau ddim yn cael teithio ar hyd y llwybr i Borth Meudwy ger Aberdaron.
Roedd glaw trwm a llifogydd ym mis Tachwedd wedi achosi tirlithriad a difrod i'r ffordd, a dim ond ar droed mae modd cyrraedd y môr yno erbyn hyn.
Wedi i beirianwyr arbenigol asesu'r difrod, cyhoeddwyd y byddai angen swm sylweddol o arian i atgyweirio'r ffordd.
Ond bellach mae buddsoddiad o £170,000 wedi ei glustnodi gan Adran Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru i atgyweirio'r ffordd.
'Balch iawn'
Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Gareth Roberts ei fod yn "falch iawn bod y llywodraeth wedi cytuno i gefnogi'r economi wledig hon".
"Mae'r lleoliad yma'n hollbwysig i gerbydau'r pysgotwyr allu teithio i lawr i'r cildraeth yn cario cewyll cimychiaid, tanwydd a'u hoffer angenrheidiol i bysgota am gimychiaid a chrancod yn y môr," meddai.
"Ac wrth gwrs, gyda'r tymor twristaidd ar ein gwarthau, dyma'r man lle mae'r cwch yn glanio i godi'r miloedd o ymwelwyr dydd sy'n teithio i'r ynys yn ystod y flwyddyn.
"Mae pum pysgotwr o Lŷn yn ddibynnol ar yr incwm maen nhw'n ei ennill o weithio'r môr yn y lleoliad yma, felly mae'n newyddion da iawn bod y gwaith atgyweirio wedi dechrau."
Ychwanegodd y bydd "rhywfaint o anghyfleustra yn y lleoliad wrth i'r contractwyr fwrw 'mlaen gyda'i gwaith, ond sefyllfa dros dro fydd hwn i ni".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2020